Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 26 Hydref 2023
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol ein Prif Arolygydd ar gyfer 2022-23

Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein gwaith drwy gydol y flwyddyn flaenorol.

Wedi'i gyhoeddi heddiw, mae adroddiad y flwyddyn hon yn tynnu sylw at effaith barhaus llawer o'r materion a amlinellwyd yn ein hadroddiad ar gyfer 2021/22. Y rheswm dros hyn yw bod y problemau gofal cymdeithasol a wynebir yn y byd ehangach yn cael effaith hyd yn oed yn fwy dwys ar y sector gofal iechyd.

Rydym wedi nodi tueddiadau allweddol ar gyfer pob un o'r meysydd rydym yn eu rheoleiddio a'u harolygu, ac wedi tynnu sylw at y pedwar mater trawsbynciol y mae angen cymryd camau ar y cyd yn eu cylch.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski: 

Nid peth hawdd fydd darllen am rai o'r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn yr adroddiad hwn. Mae'n gyfnod anodd i'r sectorau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu, ond eto, mae ein harolygwyr yn gweld yn gyson fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn darparu gofal da a diogel i'r rhai hynny sy'n eu defnyddio. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddathlu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud mewn gwasanaethau gofal ledled Cymru bob dydd, ac i roi gobaith i bobl hefyd. 

Bu'n flwyddyn heriol arall, ac yn flwyddyn arall o ymrwymiad ac ymroddiad eithriadol gan bob un o'r rhai hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae. Maent yn haeddu ein gwerthfawrogiad a'n diolch. Braint yw bod yn Brif Arolygydd sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl ledled Cymru. Dim ond drwy waith caled a brwdfrydedd ein staff y gallwn wneud yr hyn a wnawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt. 

Gadewch i ni nodi a dathlu arferion da, a'u rhannu'n eang ac yn fynych. Mae hyrwyddo diwylliant ac arferion cadarnhaol yn rhywbeth y byddwn yn gwneud llawer mwy ohono yn ystod y flwyddyn i ddod, a gallwch ddisgwyl darllen mwy am hyn yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

Mae'n gadarnhaol gweld o Adroddiad Blynyddol AGC fod arolygwyr yn gweld yn gyson bod y rhan fwyaf o wasanaethau yn darparu gofal da a diogel i'r rhai sy'n eu defnyddio, sy'n cynnwys llawer o bobl hŷn. 

Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn nodi'n glir bod y system ofal yn wynebu pwysau sylweddol a pharhaus sy'n effeithio ar y bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, yn enwedig y nifer cynyddol o unigolion ag anghenion cymhleth. 

Mae'n bryderus iawn bod y pwysau hwn yn ôl pob golwg yn tanseilio hawl pobl i gael asesiad o'u hanghenion, ac i gael dewis a rheolaeth mewn perthynas â'r gofal a gânt. Mae hefyd yn rhoi mwy o bwysau ar ofalwyr di-dâl, y mae llawer ohonynt yn wynebu heriau enfawr yn barod. 

Cefnogaf y galwadau i weithredu a geir yn yr adroddiad, sy'n adlewyrchu fy ngalwadau fy hun i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff drwy wella cyflogau ac amodau i staff gofal, ac i leihau'r pwysau ar wasanaethau drwy ddulliau ataliol. 

Mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y pryderon a nodir yn adroddiad y Prif Arolygydd ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gall pobl gael y gofal a'r cymorth y gall fod eu hangen arnynt ac, yn bwysicach byth, y caiff hawliau pobl eu diogelu a'u cynnal.