Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 6 Tachwedd 2023
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Sir y Fflint

Yn ystod mis Tachwedd, byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o'r adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant a gwasanaethau maethu yng Nghyngor Sir y Fflint.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir y Fflint, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 8 Rhagfyr 2023.

Arolwg ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)

Arolwg ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol – hawdd i ddarllen (Dolen allanol)

Gallwch chi hefyd ffonio 0300 7900 126 i dderbyn copi caled.

Bydd ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.