Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 20 Tachwedd 2023
  • Newyddion

Byddwn yn dangos cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn gwasanaethau ar gyfeiriadur ein gwefan yn fuan

Dim ond ar gyfer mathau penodol o wasanaethau gofal oedolion a phlant y bydd y newid hwn yn gymwys.

Yn sgil Rheoliadau newydd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, byddwn yn dangos cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yn gyhoeddus ar gyfer pob gwasanaeth gofal sydd wedi cofrestru â ni o dan Ddeddf 2016 yn fuan. 

Bydd y newid yn sicrhau y bydd cyfeiriadur ein gwefan yn cynnwys manylion cyswllt cyflawn ar gyfer y mathau canlynol o wasanaethau cofrestredig yng Nghymru:

  • Gwasanaethau cartrefi gofal
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau lleoli oedolion

Bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023 yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan y Senedd.

Ar gyfer gwasanaethau newydd a fydd yn cofrestru ar ôl 31 Rhagfyr 2023, byddwn yn gofyn i chi nodi rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y gwasanaeth wrth i chi gofrestru.

Ar gyfer gwasanaethau presennol, byddwn yn gofyn i chi nodi'r manylion hyn fel rhan o'n hymarfer i gwblhau Datganiad Blynyddol.

Rhaid i'r mathau hyn o ddarparwyr sicrhau bod cyfeiriad e-bost a rhif ffôn eu gwasanaeth yn gyfredol drwy eu cyfrif AGC Ar-lein.

Pa gyfeiriad e-bost fydd yn cael ei ddangos?

Prif gyfeiriad e-bost y gwasanaeth fydd yn cael ei ddangos yn gyhoeddus. Mewn sawl achos, e-bost cyffredinol fydd hwn, er enghraifft swyddfa@cartrefgofal.com.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallai cyfeiriad e-bost y gwasanaeth gynnwys enw unigolyn neu gyfeiriad y gwasanaeth y mae'n bosibl na fydd darparwyr yn dymuno eu dangos yn gyhoeddus.

Cymryd camau

Os ydych yn darparu un o'r mathau uchod o wasanaethau, cymerwch amser i edrych ar brif gyfeiriad e-bost eich gwasanaeth ac ystyriwch p'un a fyddwch yn fodlon iddo gael ei ddangos yn gyhoeddus neu p'un a fyddwch yn dymuno creu cyfeiriad e-bost newydd at y diben hwn.

Os ydych am ei newid, bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein a diweddaru cyfeiriad e-bost eich gwasanaeth. 

Os ydych yn fodlon i'ch cyfeiriad e-bost gael ei ddangos fel y mae, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. 

Mae'r un peth yn wir am rif ffôn eich gwasanaeth.

Cwestiynau? E-bostiwch agc@llyw.cymru 

Seiberddiogelwch

Gallai dangos eich cyfeiriad e-bost ar-lein arwain at gynnydd mewn negeseuon e-bost gwe-rwydo neu sgam. Mae’n bwysig bod yn hyderus am seiberddiogelwch.

Yn ddiweddar, bu'r Tîm Seibergadernid Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda heddluoedd Cymru i ddatblygu fideo (Dolen allanol) yn seiliedig ar ddigwyddiad seiber go iawn yn y sector gofal.

Cymerwch ychydig funudau i wylio'r fideo i ddysgu mwy am effaith ddinistriol negeseuon e-bost gwe-rwydo a'r hyn y gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun.