Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 11 Rhagfyr 2023
  • Newyddion

Byddwn yn dechrau cofrestru gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o 2024

Mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar reoliadau drafft i ddiffinio a rheoleiddio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel ysgolion arbennig preswyl. 

Bydd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023. 

Bydd y rheoliadau newydd yn diffinio "gwasanaeth preswyl ysgol arbennig" fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd o dan adran 2 o Ddeddf 2016, ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni.

Yn y gorffennol, dim ond arolygu'r math hwn o wasanaeth a wnaethom, yn hytrach na'i gofrestru hefyd.

Cofrestru â ni

Ni fydd angen i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni ar unwaith. Bydd canllawiau cofrestru ar gael ar ein gwefan o 1 Chwefror 2024, yn ogystal â chanllawiau pellach am ysgrifennu datganiad o ddiben.

Bydd y porth ar-lein yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2024 a bydd yn cau ar 30 Mehefin 2024. 

Rydym wedi anfon e-bost uniongyrchol at y darparwyr yr effeithir arnyntn.

Cwestiynau?

Os ydych yn ddarparwr gwasanaeth preswyl ysgol arbennig ac nad ydych wedi cael e-bost gennym, cysylltwch ag agc@llyw.cymru