Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 18 Rhagfyr 2023
  • Newyddion

Hyfforddiant ar seibergadernid ar gael ar gyfer y sector gofal cymdeithasol

Mae cyllid ar gyfer yr hyfforddiant wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae sefydliadau'r DU ar y cyd wedi profi cynnydd yn nifer yr ymosodiadau seiber. 

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sicrhau bod staff y sector gofal cymdeithasol ledled Cymru yn cael hyfforddiant ar seibergadernid ar Cyber Ninjas (Dolen allanol). 

Mae'r rhaglen, sydd wedi cael ei gwirio gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, yn cynnwys gwerth dwy awr o wersi ar-lein wedi'u rhannu'n fodiwlau, gan gwmpasu pynciau megis ymosodiadau seiber, gwe-rwydo a hacio. 

Mae Canolfan Seibergadernid Cymru (WCRC) (Dolen allanol) yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall sefydliadau gofal cymdeithasol brynu trwyddedau Cyber Ninja.  Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru staff ar y rhaglen hyfforddi, cysylltwch â thîm yr WCRC (Dolen allanol).