Adolygiad ar y cyd: Sut mae gwasanaethau plant, gofal iechyd ac addysg yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru?
Adolygiad ar y cyd ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn fydd hwn.
Mae'r galw am gymorth iechyd meddwl yn uwch o lawer na chapasiti'r gwasanaeth, yn ôl gwybodaeth a ddelir gan AGIC. Mae hwn yn fater cenedlaethol, sydd wedi gwaethygu yn sgil pandemig COVID-19, a arweiniodd at sefyllfa lle roedd nifer mawr o blant a phobl ifanc yn aros am asesiad ac ymyriad gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) arbenigol. O ganlyniad, gall hyn olygu nad yw pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac, mewn rhai achosion, bydd eu hiechyd meddwl yn dirywio ymhellach.
Nod ein hadolygiad ar y cyd, dan arweiniad AGIC, yw ystyried a yw plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion iechyd meddwl. Bydd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar blant rhwng 11 ac 16 oed mewn addysg orfodol ac yn ystyried y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eu hanghenion iechyd meddwl o fewn gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant, cyn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau CAMHS arbenigol neu cyn cael eu hasesu ganddynt.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am gwmpas yr adolygiad, ynghyd â chylch gorchwyl ar wefan AGIC (Dolen allanol).