Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 10 Ionawr 2024
  • Newyddion

Mae canlyniadau ein cynllun peilot ar gyfer cyfarfodydd gwella gofal plant a chwarae bellach ar gael...

Yn ystod mis Chwefror 2023, gwnaethom ofyn i wirfoddolwyr o'r sector gofal plant a chwarae gymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer ein cyfarfodydd gwella newydd.

Lansiwyd y cynllun peilot ar gyfer cyfarfodydd gwella ym mis Ebrill 2023 ac roedd ar waith hyd at ddiwedd mis Mehefin 2023.

Roeddem wrth ein bodd bod 90 o ddarparwyr wedi rhoi o'u hamser i gymryd rhan yn y cynllun peilot a ddechreuodd ym mis Ebrill 2023, a gallwn bellach rannu canlyniadau'r gwerthusiad â chi. 

Beth yw cyfarfod gwella? 

Cynhelir cyfarfod gwella rhwng arolygiadau ac mae'n rhoi'r cyfle i ddarparwyr rannu unrhyw welliannau y maent wedi'u gwneud ers eu harolygiad diwethaf â ni. Mae hefyd yn ystyried sut maent wedi ymateb i unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio neu argymhellion. 

Canfyddiadau 

  • cynhaliwyd 60 o gyfarfodydd gwella.
  • nododd 96% o ddarparwyr fod y canllawiau a ddarparwyd iddynt cyn y cyfarfod yn glir ac yn hawdd eu deall. 
  • roedd 91% o ddarparwyr yn teimlo eu bod yn gallu datblygu ansawdd eu gwasanaeth yn sgil y cyfarfod gwella.
  • ychydig o dan awr oedd isafswm hyd cyfarfod gwella. 
  • cafodd 57% o wasanaethau eu cyfeirio at adnoddau defnyddiol.

Y camau nesaf

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut rydym yn bwriadu cyflwyno'r cyfarfodydd gwella i bob darparwr gofal plant a chwarae yn ddiweddarach yn 2024.