Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 29 Ionawr 2024
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn ar y tîm anableddau dysgu cymunedol yn Rhondda Cynon Taf

Yn ystod mis Chwefror, byddwn yn cynnal gwiriad sicrwydd o'r tîm anableddau dysgu cymunedol yn Rhondda Cynon Taf ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Diben y gwiriad yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol a'r byrddau iechyd wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Os ydych yn byw yn Rhondda Cynon Taf, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn, a rhoi gwybod eich barn i ni ar y gofal a'r cymorth a ddarperir i oedolion ag anabledd dysgu a'u rhieni/gofalwyr.

Rhowch eich adborth i ni erbyn 15 Chwefror.

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau (Dolen allanol)

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau – hawdd ei ddeall (Dolen allanol)

Nodwch, ar gyfer y darn penodol o waith hwn, mai dim ond pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yr ydym am glywed ganddynt. 

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.