Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Chwefror 2024
  • Newyddion

Mae canllawiau cofrestru bellach ar gael ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig breswyl

Rhaid i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni erbyn diwedd mis Mehefin.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar reoliadau drafft i ddiffinio a rheoleiddio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel ysgolion arbennig preswyl.

Roedd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

Bydd y rheoliadau newydd yn diffinio "gwasanaeth preswyl ysgol arbennig" fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd o dan adran 2 o Ddeddf 2016, ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau er mwyn helpu'r gwasanaethau hynny y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel ysgolion arbennig preswyl, i gofrestru â ni.

Cofrestru â ni

Ni fydd angen i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni ar unwaith. Mae fersiwn ddiwygiedig o'n canllawiau cofrestru bellach ar gael, yn ogystal â thempled er mwyn helpu darparwyr i baratoi datganiad o ddiben.

Bydd y porth ar-lein yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2024 a bydd yn cau ar 30 Mehefin 2024.

Rydym wedi anfon e-bost uniongyrchol at y darparwyr yr effeithir arnyntn.

Cwestiynau?

Os ydych yn ddarparwr gwasanaeth preswyl ysgol arbennig ac nad ydych wedi cael e-bost gennym, cysylltwch ag agc@llyw.cymru.