Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Chwefror 2024
  • Newyddion

Mae'n bosibl y bydd y gwerthuswyr annibynnol Practice Solution Ltd yn cysylltu â darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant fel rhan o'n cynllun graddau peilot

Rydym wedi bod yn ymgymryd â chynllun peilot i gynnal arolygiadau mewn cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref gan ddefnyddio graddau fel rhan o'r arolygiad.

Er mwyn asesu a gwella ein methodoleg, rydym wedi penodi cwmni annibynnol i gynnal gwerthusiad o'r cynllun peilot ac o'n dull gweithredu. Caiff y gwaith hwn ei wneud rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Mehefin. 

Os ydych chi'n darparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaethau cymorth cartref yng Nghymru a'ch bod wedi rhoi caniatâd i ni rannu eich manylion cyswllt â phartneriaid allanol, mae'n bosibl y bydd ein gwerthuswyr yn cysylltu â chi neu'ch sefydliad yn fuan er mwyn trefnu i siarad â chi.

Caiff unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu i gefnogi'r gwerthusiad hwn ei chadw'n gwbl gyfrinachol.

Gellir dod o hyd i'n polisi preifatrwydd ar y ffordd rydym yn trin data ar ein gwefan.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru

Caiff diweddariadau pellach eu darparu wrth i'r gwerthusiad fynd rhagddo.