Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Chwefror 2024
  • Newyddion

Yn galw ar bob gwasanaeth oedolion a phlant! Paratoi ar gyfer graddau – rhowch wybod eich barn

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafodd graddau arolygu ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant yng Nghymru eu treialu mewn cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref ledled y wlad.

Er bod y gwasanaethau wedi cael gwybod eu graddau, ni chafodd unrhyw raddau eu gwneud yn gyhoeddus. 

Er mwyn paratoi ar gyfer cyhoeddi a defnyddio graddau ym mhob un o'r gwasanaethau oedolion a phlant yng Nghymru, ac er mwyn asesu a gwella ein methodoleg, rydym wedi penodi cwmni annibynnol, sef Practice Solutions Ltd, i werthuso'r cynllun peilot a'n dull gweithredu. 

Mae eich adborth yn bwysig 

P'un a wnaethoch gymryd rhan yn y cynllun graddau peilot ai peidio, rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn ar gyflwyno'r graddau a beth y mae'n ei olygu i chi. Hoffem glywed hefyd gan unigolion sy'n derbyn gwasanaethau a'u teuluoedd. 

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydym wedi'i chasglu i sicrhau bod y broses o ddefnyddio graddau ym mhob cartref gofal neu wasanaeth cymorth cartref yng Nghymru mor syml â phosibl. Y nod yw eich helpu chi drwy'r broses hon, felly rhowch eich adborth gonest i ni.  

Defnyddiwch y dolenni isod i gwblhau un o'r arolygon. Bydd pob arolwg yn cymryd tua 5-10 munud i'w gwblhau:

Os ydych yn ddarparwr gwasanaeth o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), mae'n bosibl y bydd Practice Solutions hefyd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol yn gofyn am drafodaeth gyflym am eich barn ar y graddau.

Mae eich adborth yn ddienw

Caiff unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu i gefnogi'r gwerthusiad hwn ei chadw'n gwbl gyfrinachol.

Gellir dod o hyd i'n polisi preifatrwydd, sy'n cynnwys manylion am y ffordd rydym yn ymdrin â data, ar ein gwefan.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru