Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 28 Chwefror 2024
  • Newyddion

Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid 2022-23

Canfyddiadau ac argymhellion allweddol o'n hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu gwarchod a'u cynnal, a bod y gofal y maent yn ei dderbyn er eu budd pennaf ac yn cael ei roi yn y ffordd leiaf cyfyngedig.

Mae'r trefniadau diogelu yn gymwys i bobl dros 18 oed nad ydynt yn gallu rhoi cydsyniad i'w triniaeth na'u gofal ac sydd mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu i atal achosion o dorri amodau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Canfyddiadau allweddol 2022-23

  • Bu cynnydd o 18% yn nifer y ceisiadau DoLS a aseswyd gan yr awdurdodau lleol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Bu cynnydd o 32% yn nifer y ceisiadau DoLS a aseswyd gan fyrddau iechyd yn 2022-23 o gymharu â'r ffigurau a welwyd yn 2021-22.
  • Mae'r oedi hir cyn dyrannu, asesu ac awdurdodi ceisiadau yn parhau i olygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid, heb fod unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ar waith nac unrhyw gyfle i herio wrth aros i benderfyniad gael ei wneud. Rhaid i'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i asesu ceisiadau wella a rhaid iddynt gael eu cwblhau o fewn y terfyn amser statudol.
  • Daw llawer o awdurdodiadau brys i ben cyn y gellir cynnal yr asesiadau DoLS gofynnol. Gallai fod o fudd i rai awdurdodau lleol a byrddau iechyd adolygu eu gweithdrefnau presennol ar gyfer awdurdodiadau brys ar y cyd â'r awdurdodau rheoli. 
  • Ni all y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddyrannu nifer y ceisiadau a geir am awdurdodiadau pellach. Rhaid i bob corff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu hamddiffyn, ac y caiff yr asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer DoLS.
  • Mae defnydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd o amodau yn amrywio, gyda rhai rhanbarthau yn eu defnyddio'n fwy nag eraill. Dylai cyrff goruchwylio sicrhau y caiff amodau eu defnyddio lle bo angen a'u bod yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl, gan gynnwys lleihau neu roi'r gorau i'r amddifadu.
  • Caiff y rhan fwyaf o bobl eu cefnogi a'u cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'u hamddifadu o'u rhyddid. Rhaid i gyrff goruchwylio barhau i sicrhau y caiff “cynrychiolydd person perthnasol” ei benodi ar gyfer pob awdurdodiad. 

Ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i weld yr adroddiad llawn (dolen allanol).