Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 5 Mawrth 2024
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn ar y tîm cymunedol yn Blaenau Gwent

Yn ystod mis Mawrth, byddwn yn edrych ar y gofal a'r cymorth a ddarperir i oedolion ag anabledd dysgu a'u rhieni/gofalwyr, yn Blaenau Gwent.

Diben yr archwiliad sicrwyddyw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Os ydych yn byw yn Blaenau Gwent, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn, a rhoi gwybod eich barn i ni ar y gofal a'r cymorth a ddarperir i oedolion ag anabledd dysgu a'u rhieni/gofalwyr.

Rhowch eich adborth i ni erbyn 28 Mawrth.

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau (Dolen allanol)

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau – hawdd ei ddeall (Dolen allanol)

Nodwch, ar gyfer y darn penodol o waith hwn, mai dim ond pobl sy'n byw yn Blaenau Gwent yr ydym am glywed ganddynt. 

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.