Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 19 Mawrth 2024
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am ein rhaglen arolygu ar y cyd ag Estyn

Mae gweithdai ar-lein yn cael eu cynnal ar 21 Mawrth i leoliadau cymwys gymryd rhan.

Gydag Estyn, rydym ar y cyd yn arolygu’r gwasanaethau gofal plant a chwarae hynny sy’n cynnig elfen o addysg a ariennir, a elwir yn ‘nas cynhelir’.

Mae’r rhaglen arolygu ar y cyd bellach wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd, felly mae’r ddwy arolygiaeth wedi comisiynu adolygiad annibynnol i nodi meysydd o arfer gadarnhaol yn ogystal â meysydd i’w gwella.

Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion arweiniol AGC o gael ei harwain gan gudd-wybodaeth; gweithio ar y cyd; cefnogi gwelliant ac arloesedd; a myfyrio a dysgu.

Gwerthuswyr annibynnol

Mae asiantaeth annibynnol, Learning Partnership, yn cynnal yr adolygiad a bydd yn siarad ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys arolygwyr a staff eraill yn y ddwy arolygiaeth; rhieni a gofalwyr plant sy'n defnyddio darpariaeth nas cynhelir; darparwyr a'u cynrychiolwyr gan gynnwys sefydliadau ambarél ac awdurdodau lleol; a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ym maes gofal plant ac addysg.

Cymerwch ran

Cynhelir grwpiau ffocws dwyieithog ar gyfer lleoliadau ddydd Iau 21 Mawrth. Mynychwch dim ond os ydych yn gymwys i gael arolygiad ar y cyd gennym ni ac Estyn:

  • Cyfarfod Zoom (Dolen allanol) – Dydd Iau 21 Mawrth – 09:30-11:30

ID Cyfarfod: 876 8721 9654

Cod pasio: 827724

  • Cyfarfod Zoom (Dolen allanol) – Dydd Iau 21 Mawrth – 13:00-15:00

ID Cyfarfod: 897 4097 0704

Cod pasio: 652409

  • Cyfarfod Zoom (Dolen allanol) - Dydd Iau 21 Mawrth – 18:00-19:30

ID cyfarfod: 872 6171 9644

Cod pasio: 547617

 

Cadarnhewch eich presenoldeb trwy glicio ar y ddolen dderbyn yma (Dolen allanol).

 

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Glenda Dudley (Dolen allanol) yn y Learning Partnership.