Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 25 Mawrth 2024
  • Newyddion

Bydd cofrestru ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yn agor yr wythnos nesaf

Rhaid i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni erbyn diwedd mis Mehefin.

Roedd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

Mae’r rheoliadau newydd yn diffinio "gwasanaeth preswyl ysgol arbennig" fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd o dan adran 2 o Ddeddf 2016, ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn gofrestru â ni. 

Rydym yn diweddaru ein canllawiau er mwyn helpu'r gwasanaethau hynny y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel ysgolion arbennig preswyl, i gofrestru â ni.

Cofrestru â ni

Gall y gwasanaethau hyn wneud cais i gofrestru gyda ni o 1 Ebrill 2024 pan fydd y porth ar-lein yn agor ar eu cyfer. Bydd fersiwn ddiwygiedig o'n canllawiau cofrestru bellach ar gael yn fuan, yn ogystal â thempled er mwyn helpu darparwyr i baratoi datganiad o ddiben.

Bydd y porth ar-lein yn cau ar 30 Mehefin 2024.

Rydym wedi anfon e-bost uniongyrchol at y darparwyr yr effeithir arnyntn.

Cwestiynau?

Os ydych yn ddarparwr gwasanaeth preswyl ysgol arbennig ac nad ydych wedi cael e-bost gennym, cysylltwch ag agc@llyw.cymru.