Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 26 Mawrth 2024
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Penfro

Yn ystod mis Ebrill byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant a hoffem glywed am eich profiadau.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth i oedolion gan Gyngor Sir Penfro, hoffem glywed gennych drwy’r arolwg isod:

Y dyddiad cau ar gyfer rhoi eich adborth i ni yw 15 Ebrill.

Gallwch hefyd ffonio 0300 7900 126 os oes angen help arnoch i gwblhau'r arolwg.

Bydd llythyr am ein canfyddiadau yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law.