Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Mai 2024
  • Newyddion

Cyhoeddi'r adroddiad ar yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o wasanaethau plant yn Sir Fynwy

Diben yr arolygiad hwn oedd adolygu perfformiad gwasanaethau plant Cyngor Sir Fynwy.

Gwelsom fod arweinwyr a staff Cyngor Sir Fynwy yn falch o'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i blant a theuluoedd a bod ganddynt ddealltwriaeth dda o gryfderau eu gwasanaethau a meysydd i'w gwella. Mae cynlluniau ar waith i ddatblygu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â'r gofynion a'r heriau sy'n wynebu sefydliadau yn y sector cyhoeddus ledled Cymru. 

Fel llawer o awdurdodau lleol, maent yn wynebu heriau mewn perthynas â darparu a chyflenwi gofal cymdeithasol. Mae'r rhan fwyaf o'r heriau hyn o ganlyniad i bwysau sy'n deillio o'r adferiad cenedlaethol ar ôl y pandemig, gan gynnwys mwy o alw am wasanaethau a'r anghenion cynyddol gymhleth sydd gan bobl. 

Mae'r adroddiad yn nodi rhai pryderon ynghylch cydymffurfiaeth yr awdurdod lleol â gofynion statudol ym maes diogelu plant, yn benodol o safbwynt amseroldeb ymweliadau amddiffyn plant a chynadleddau achos. 

Mae'r awdurdod lleol wedi gorffen ailstrwythuro gwasanaethau i blant a theuluoedd y mae angen cymorth ac amddiffyniad arnynt, ac mae'r arweinwyr yn bwriadu adolygu eu Tîm Asesu a Chymorth Cynnar. Maent hefyd yn datblygu model ymarfer newydd, safonau ymarfer, a fframwaith sicrhau ansawdd er mwyn gwella cydymffurfiaeth â gofynion statudol.

Rydym wedi gofyn i Gyngor Sir Fynwy ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw a'u gwella. Byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus.