Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Mai 2024
  • Newyddion

Mae eich llais yn bwysig! Profiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru

Rydym am ddeall beth sy'n gweithio a beth y mae angen ei wella i bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Hoffem ddysgu mwy am eich profiadau ac a ydych wedi defnyddio neu wedi cael profiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu unrhyw gymorth arall tebyg. 

Ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn, rydym yn awyddus i wneud yn siŵr bod gwasanaethau llesiant ac iechyd meddwl yn darparu gwasanaethau hygyrch ac amserol i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Felly, beth am ddod at ein gilydd a dymchwel y rhwystrau er mwyn sicrhau y gall pawb gael y cymorth cywir sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu. 

Drwy dreulio ychydig funudau yn cwblhau'r arolwg hwn, byddwch yn helpu i lywio dyfodol cymorth i bobl ifanc ledled Cymru. Nodwch y dylai'r arolwg hwn gymryd tua deng munud i'w gwblhau ac mae llawer o'r cwestiynau yn ddewisol:

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yw'r enw ar wasanaethau'r GIG sy'n asesu ac yn trin pobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl. Mae timau CAMHS yn cynnwys therapyddion, seiciatryddion plant a'r glasoed (meddygon sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl), nyrsys a gweithwyr cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Gweler gwefan Mind (Dolen allanol) am ragor o wybodaeth (dolen Saesneg yn unig).

Bydd eich ymateb i'r arolwg hwn yn ddienw. Mae hyn yn golygu na fydd neb yn gallu eich adnabod o'ch atebion.

Os ydych o dan 16 oed, gofynnwch i'ch rhiant neu ofalwr cyn cwblhau'r arolwg hwn.Hefyd, efallai y byddai'n ddefnyddiol cael rhiant neu ofalwr gerllaw rhag ofn y bydd angen help arnoch i ateb y cwestiynau.

Os hoffech gael unrhyw help neu gyngor, gallwch gysylltu â'r sefydliadau isod. Byddwn yn eich atgoffa o'r rhain eto ar ddiwedd yr arolwg.

Os hoffech wneud cais am yr arolwg hwn mewn fformat arall, cysylltwch âg AGIC: agic@llyw.cymru 

Diolch am wneud gwahaniaeth.