Gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig – pedair wythnos ar ôl i wneud cais i gofrestru
Y dyddiad cau yw 30 Mehefin.
Mae AGC Ar-lein, ein porth ar-lein, ar gael i'r mathau hyn o wasanaethau wneud cais i gofrestru â ni.
Os ydych yn darparu gwasanaeth preswyl ysgol arbennig, gwnewch gais i gofrestru â ni erbyn 30 Mehefin 2024.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rheoliadau sy'n sail i'r newid hwn ar ddiwedd yr eitem newyddion hon.
Canllawiau i'ch helpu
Wrth wneud cais i gofrestru â ni, edrychwch ar y ddogfennaeth ganlynol ar ein gwefan, sydd wedi'i diweddaru i gynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.
- Canllaw i gofrestru
- Canllaw ar gyfer y datganiad o ddiben
- Templed datganiad o ddiben
Deddfwriaeth berthnasol
Rydym wedi darparu dolenni i'r darnau perthnasol o ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol y dylai darparwyr fod yn ymwybodol ohonynt ar y dudalen ar ddeddfwriaeth ar ein gwefan. Cliciwch ar y blwch llwyd wedi'i labelu ‘Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig’.
Rhagor o fanylion am y rheoliadau
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023, y daethant i rym ar 31 Rhagfyr 2023, yn sail i Ddeddf 2016. Mae'r rhain yn diffinio "gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig" fel gwasanaethau rheoleiddiedig newydd ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru â ni.
Yn y cyfamser, daeth Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (Dolen allanol) i rym ar 31 Mawrth 2024. Mae'r rhain yn cyflwyno gofynion i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol eu bodloni mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch y gofal a'r cymorth a ddarperir, ac yn canolbwyntio ar lesiant a chanlyniadau pobl.
Mae'r canllawiau statudol ar gyfer darparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig ar gael ar y dudalen ar ddeddfwriaeth ar ein gwefan, ac ar wefan Llywodraeth Cymru (Dolen allanol).
Mae hyn yn cyflawni'r argymhelliad a wnaed gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) (Dolen allanol).
Cwestiynau?
Os ydych chi'n ddarparwr gwasanaeth preswyl ysgol arbennig ac nad ydych wedi cael e-bost gennym, cysylltwch ag agc@llyw.cymru cyn gynted â phosibl.