Mae'r gwiriad gwella yn datgelu anghysonderau mewn arferion diogelu yng ngwasanaethau oedolion Cyngor Sir Penfro
Gwnaethom gynnal y gwiriad gwella hwn rhwng 22 a 25 Ebrill 2024.
Canfu’r gwiriad gwella diweddar a gynhaliwyd gennym yng ngwasanaethau oedolion Cyngor Sir Penfro, er bod arferion cadarnhaol wedi'u nodi mewn rhai meysydd, datgelodd yr arolygiad nad yw’r dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni bob amser, a bod anghysondeb mewn arferion diogelu.
Un o'r prif faterion y tynnwyd sylw ato yn ystod yr arolygiad oedd bod cofnodion gofal cymdeithasol diogelu pobl yn cael eu cau'n rhy gynnar er bod angen cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth o bosibl. Gall hyn olygu bod pobl agored i niwed yn wynebu risg, ac nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn ogystal, cyfyngedig fu'r cynnydd o ran lleihau achosion o oedi wrth asesu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth pobl, a all arwain at ganlyniadau gwael.
Mae'r awdurdod lleol bellach yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn a gwella'r ffordd y mae'n cyflwyno gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y bobl.
Dywedodd llefarydd ar ran Arolygiaeth Gofal Cymru:
Ar y cyfan, mae'r arolygiad o wasanaethau oedolion Cyngor Sir Penfro wedi tynnu sylw at yr angen am ymdrechion o hyd i wella arferion diogelu a sicrhau y caiff dyletswyddau statudol eu cyflawni'n gyson.
O gofio lefel ein pryderon, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i fonitro'r camau mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffygion a sicrhau bod y gwaith hwn yn digwydd yn gyflym.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion darllenwch y llythyr llawn isod.