Adolygiad annibynnol o'r trefniadau arolygu ar y cyd ag Estyn wedi'i gyhoeddi
Cynhaliwyd yr adolygiad gan y Learning Partnership rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r adolygiad annibynnol hwn o'r trefniadau arolygu ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Mae ein cyrff arolygu yn cydweithio i arolygu lleoliadau gofal plant nas cynhelir ar y cyd.
Mae'r adolygiad yn gadarnhaol am effaith y rhaglen arolygu ar y cyd. Yn ddefnyddiol iawn, mae hefyd yn trafod ffyrdd y gellid gwella'r dull arolygu ac yn cynnwys amrywiaeth o argymhellion i'r ddwy arolygiaeth eu hystyried.
Gallwch lawrlwytho a darllen yr adolygiad ar waelod y dudalen hon.
Gyda'i gilydd, bydd AGC ac Estyn yn llunio ymateb i'r argymhellion dros y 12 mis nesaf, gan gymryd amser i sicrhau ein bod yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y ddau sefydliad.
Rydym yn ymrwymedig i'r bartneriaeth rydym wedi'i meithrin dros y pum mlynedd neu fwy diwethaf, a byddwn yn cydweithio i wella ein dull mewn modd sy'n gweithio i'r ddau sefydliad.
Pan gytunir ar newidiadau sylweddol i'r fframwaith a'r fethodoleg, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar gyfer y sector.