Cyhoeddi adroddiad arolygu ar gyfer Amddiffyn Plant yng Nghymru
Ar y cyd ag arolygiaethau eraill, gwnaethom gynnal adolygiad ar y cyd o effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol ym maes Amddiffyn Plant ledled Cymru.
Cynhaliwyd Arolygiadau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) rhwng 2019 a 2024 mewn ymateb i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant.
Lluniwyd adolygiad heddiw gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn, yn dilyn arolygiadau ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant yn ardaloedd y chwe bwrdd diogelu rhanbarthol yng Nghymru rhwng 2019 a 2024.
Nod y gwaith oedd asesu i ba raddau mae asiantaethau partner yn llwyddo i gyfathrebu a chydweithio i hyrwyddo lles plant a'u hamddiffyn rhag camdriniaeth a niwed.
Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at sawl enghraifft o arfer da o fewn partneriaethau amlasiantaethol, awdurdodau lleol, heddluoedd, gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau plant, ac enghreifftiau o ddiwylliant diogelu cadarn a pharodrwydd i weithio'n effeithiol ar draws asiantaethau. Dangosodd yr adolygiad hefyd sawl enghraifft o waith arloesol sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr ymdrech i wella ansawdd trefniadau amddiffyn plant yng Nghymru.
Fodd bynnag, tynnodd yr adolygiad sylw at rai broblemau systemig sy'n atal trefniadau cydweithio, gan gynnwys y ffaith bod gwahanol systemau TG yn achosi anawsterau a rhai achosion o oedi wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol ar draws partneriaid amlasiantaethol.
Dywedodd llefarydd ar ran AGC:
“Mae'n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes diogelu yn gallu cael gafael ar wybodaeth gywir a bod sianeli cyfathrebu effeithiol ar gael iddynt er mwyn deall y risgiau i blant a chymryd camau priodol i'w hamddiffyn. Er mwyn gwneud hyn, mae angen iddynt fod yn gweithio gan ddefnyddio'r un systemau rhannu gwybodaeth.
Mae ein harolygiadau wedi dangos yr effaith go iawn y mae'r heriau hyn yn ei chael ar blant, rhieni, gofalwyr, a staff sy'n gysylltiedig ag ymdrechion diogelu.
Os ymdrinnir â'r materion hyn, gall asiantaethau partner gydweithio mewn ffordd fwy effeithiol er mwyn cefnogi plant sy'n wynebu risg yn well a'u hamddiffyn fel y maent yn ei haeddu.
Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau partner i wella trefniadau amddiffyn plant ac i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel rhag niwed. Mae ein harolygiadau ar y cyd yn ffordd werthfawr o nodi meysydd sydd wedi gwella ac ysgogi newidiadau cadarnhaol o ran arferion diogelu.”
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.