Gwiriad gwella o wasanaethau plant Cyngor Sir Ddinbych yn nodi cynnydd cadarnhaol, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach mewn meysydd allweddol
Gwnaethom gynnal y gwiriad gwella hwn rhwng 17 ac 19 Chwefror 2025.
Gwnaethom nodi bod gwasanaethau plant Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud rhai gwelliannau ers ein harolygiad yn 2023, ond mae angen cymryd camau pellach o hyd mewn nifer o feysydd allweddol.
Mae gan yr awdurdod lleol dîm arwain sefydlog a phrofiadol sydd wedi rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith. Mae'r arweinwyr wedi gweithio i osod cyfeiriad clir, wedi'u cynorthwyo gan staff cymwys sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan y tîm rheoli a'u cydweithwyr.
Mae cnewyllyn o staff parhaol hirdymor yn gweithio i ddarparu gwasanaeth sy'n cefnogi sefydlogrwydd tymor hwy, ond mae recriwtio staff yn parhau i fod yn her i'r awdurdod lleol, yn enwedig ar gyfer swyddi allweddol mewn timau penodol.
Mae gwelliannau wedi'u gwneud wrth y ‘drws ffrynt’ ac mae'r broses o gofnodi rhesymeg a phenderfyniadau yn cael ei goruchwylio'n well. Er bod system frysbennu ar waith i ddyrannu gwaith yn unol â blaenoriaeth o ran angen a diogelwch, mae achosion o oedi yn amlwg o hyd.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd y nodwyd bod angen eu gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.
Rydym yn croesawu ymdrechion gan yr awdurdod lleol i rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd gydag awdurdodau lleol eraill, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
Disgwylir i’r awdurdod lleol gyflwyno’r llythyr hwn i aelodau etholedig a’i wneud yn destun proses graffu gyhoeddus drwy gyfarfod pwyllgor ffurfiol ac agored cyn gynted â phosibl. Dylid hefyd estyn gwahoddiad i AGC fynychu'r cyfarfod.