Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030: "Sicrhau, Gwella, Dylanwadu" - Ein cynllun ar gyfer y dyfodol
Ein cynllun strategol newydd yn nodi cyfeiriad ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae heddiw yn garreg filltir bwysig wrth i ni lansio ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030, "Sicrhau, Gwella, Dylanwadu" - cynllun cynhwysfawr a fydd yn llywio cyfeiriad a blaenoriaethau ein sefydliad dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'n gyfnod heriol iawn i wasanaethau cyhoeddus, ac mae ein cynllun strategol newydd yn cadarnhau ein hymrwymiad i wella diogelwch ac ansawdd, llywio gwelliant ystyrlon, ac ehangu ein dylanwad cadarnhaol ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod, er mwyn gwneud hynny, ei bod yn hanfodol bod dinasyddion yng Nghymru yn gwybod pwy ydym ni a sut y gallwn helpu. Rydym yn gobeithio y gall pawb sy'n darllen ein cynllun chwarae rôl wrth godi ymwybyddiaeth am ein gwaith.
Ein diben a'n huchelgeisiau
Mae'r Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030 yn mireinio ein datganiad cenhadaeth i adlewyrchu ein rôl hanfodol o ran gwella yn well:
"Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Rydym yn cyfrannu at wella gofal ar lefel unigol, ar lefel gwasanaeth, ac ar lefel sector."
Mae ein strategaeth yn seiliedig ar dri philer allweddol:
- Sicrhau: Sicrhau ansawdd a diogelwch drwy reoleiddio cadarn
- Gwella: Cefnogi gwelliant parhaus mewn gwasanaethau gofal
- Dylanwadu: Gweithio gyda phartneriaid er mwyn llywio newid cadarnhaol
Mae'r cynllun yn amlinellu nifer o amcanion craidd, gan gynnwys:
- sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar ansawdd bywyd pobl a'u profiad o ofal
- darparu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel am ein canfyddiadau
- datblygu gweithlu amrywiol, cadarn a gwydn
- bod yn fwy gweledol er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod beth rydym yn ei wneud a sut y gallwn helpu
- cydweithio â phartneriaid i rannu gwybodaeth a gwella canlyniadau
Dull gweithredu sy'n seiliedig ar werthoedd
Mae ein gwaith yn parhau i gael ei lywio gan ein gwerthoedd craidd:
- Gofalgar: Rydym yn drugarog ac mae'n hawdd siarad â ni
- Teg: Rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
- Uniondeb: Rydym yn onest a dibynadwy
- Proffesiynol: Rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
- Parch: Rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
Mae'r Cynllun Strategol llawn ar gyfer 2025-2030 ar gael i'w lawrlwytho isod. Rydym yn croesawu adborth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob un o'n rhanddeiliaid er mwyn rhoi'r weledigaeth uchelgeisiol hon ar waith.
Dogfennau
-
Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 260 KBPDF, Maint y ffeil:260 KB
-
Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030 - Crynodeb un dudalen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MBPDF, Maint y ffeil:1 MB
-
Ein cynllun strategol ar gyfer 2025-2030 - Hawdd ei darllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 11 MBPDF, Maint y ffeil:11 MB