Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Awst 2025
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Ddinbych

Ym mis Medi 2025 byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Sir Ddinbych.

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Ddinbych, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 1 Medi 2025.

Arolwg pobl - https://ymateb.gov.wales/s/PeoplePEI/

Arolwg pobl – hawdd ei ddeall - https://ymateb.gov.wales/s/EasyReadPeoplePEI/

Gallwch hefyd ffonio 0300 7900 126 i gael copi caled.