Byddem yn croesawu eich barn ar y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Nhorfaen
Yn ystod mis Medi 2025, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal gwiriad sicrwydd o'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Nhorfaen.
Diben y gwiriad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Nhorfaen, hoffem glywed am eich profiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 24 Medi.
Arolwg cyffredinol (Dolen allanol)
Arolwg hawdd ei ddarllen (Dolen allanol)
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.