Gofal yng Nghymru yn gwella wrth i'r arolygiaeth dynnu sylw at gynnydd a heriau'r sector
Mae'r adroddiad yn dangos sut mae arolygiadau a chamau gorfodi wedi'u targedu yn cefnogi gwelliannau mesuradwy, gan dynnu sylw at heriau parhaus y sector ar yr un pryd.
Mae gwasanaethau gofal ledled Cymru yn darparu safonau gofal uwch, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2024-2025. Mae'r adroddiad yn dangos sut mae arolygiadau a chamau gorfodi wedi'u targedu yn cefnogi gwelliannau mesuradwy, gan dynnu sylw at heriau parhaus y sector ar yr un pryd.
Effeithiolrwydd arolygu yn cyflawni canlyniadau
Mae dull arolygu a arweinir gan ddeallusrwydd Arolygiaeth Gofal Cymar (AGC) wedi cyfrannu at welliannau sylweddol mewn ansawdd. Graddau 'da' neu 'rhagorol' oedd y rhan fwyaf o’r graddau arolygu a roddwyd ym mhob sector yn ystod 2024-2025: 84% ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, 78% ym maes gwasanaethau plant, ac 80% ym maes gwasanaethau gofal plant a chwarae.
Cyhoeddodd yr arolygiaeth 373 o Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth yn ystod y flwyddyn - gostyngiad o 41% o 2023-24 - sy'n dangos bod llai o wasanaethau yn methu â chyrraedd y safonau gofynnol. Defnyddiwyd yr hysbysiadau hyn pan oedd angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu diogelwch neu lesiant pobl.
Mae rheoleiddio ymatebol yn diogelu pobl agored i niwed
Mae AGC yn gweithredu'n bendant pan gaiff pryderon eu codi. Cynhaliodd yr arolygiaeth 239 o arolygiadau yn gynnar yn ystod y flwyddyn mewn ymateb i bryderon a godwyd gan deuluoedd, staff a gweithwyr proffesiynol. Mae'r dull hwn yn dangos ymatebolrwydd y rheoleiddiwr pan fydd pobl yn mynegi pryder ac yn sicrhau y caiff problemau eu nodi ac yr ymdrinnir â nhw yn gyflym.
Mae AGC wedi cyflwyno cyfarfodydd ansawdd gyda gwasanaethau gofal plant a chwarae er mwyn annog sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar welliant rhwng arolygiadau ffurfiol. Eleni, defnyddiodd 154 o wasanaethau y cyfarfodydd hyn i fyfyrio ar eu harferion a chynllunio gwelliannau i'r dyfodol. Mae'r dull hwn yn cefnogi proses o ddynodi materion yn gynnar ac yn helpu i gynnal ffocws ar welliant parhaus.
Mae'r ymyriadau hyn yn rhan o ymrwymiad AGC i ddiogelu pobl a chymell gwelliant yn y sector gofal, nid dim ond rhoi gwybod amdano.
Sector yn arloesi er gwaetha'r heriau
Er gwaetha'r pwysau parhaus ar y gweithlu a'r pwysau ariannol, mae gwasanaethau gofal Cymru yn parhau i arloesi gyda buddiannau uniongyrchol i bobl ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau sy'n cynnwys mentrau micro-ofal sydd wedi cwtogi amseroedd amser gofal cartref hyd at 30% ac sy'n helpu pobl i aros yn eu cartref yn hirach, a rowndiau rhithwir o wardiau sy'n cysoni adnoddau ag anghenion unigol pobl yn well, gan sicrhau bod y cymorth cywir yn cyrraedd y person cywir ar yr adeg gywir.
Mae gweithwyr gofal o dramor yn fwyfwy pwysig i weithlu gofal Cymru, gyda llawer yn dysgu Cymraeg er mwyn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth yn well ac mae rhaglenni cyfnewid diwylliannol yn helpu i greu amgylcheddau gofal mwy cynhwysol ac ymatebol sy'n dathlu cymunedau amrywiol Cymru.
"Rwy'n gweld grym trawsnewidiol gofal da bob dydd - o'r plant sy'n ffynnu mewn amgylcheddau magwrus i bobl hŷn sy'n cynnal eu hannibyniaeth gyda'r cymorth cywir,” meddai Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru.
"Mae cryfder y gweithlu sy'n darparu'r gofal hwn, a hynny'n aml yn wyneb heriau sylweddol, yn creu argraff arnaf drwy'r amser. Mae'r gofal a'r cymorth a gaiff y rhan fwyaf o'r bobl o safon dda neu ragorol, ac maent yn ffynnu oherwydd hynny."
Mae heriau clir yn parhau
“Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dangos cynnydd gwirioneddol mewn ansawdd gofal ledled Cymru,” dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC.
“Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn glir ynghylch yr heriau sy'n parhau. Mae'r prinder gweithlu, pwysau ariannol a'r cynnydd mewn galw yn parhau i brofi cadernid y gwasanaeth. Mae'r ffaith bod cymaint o wasanaethau'n darparu gofal o ansawdd uchel yn y cyd-destun hwn yn destament i ymroddiad y gweithlu a chryfder y sector gofal.”
Hyder rheoleiddiol
Mae'r adroddiad yn dangos hyder yn null rheoleiddio AGC. Dim ond 6% o'r adroddiadau arolygu a gafodd eu herio gan ddarparwyr, wrth i bron i 7,000 o bobl rannu eu profiadau gofal gydag arolygwyr yn ystod y flwyddyn. Mae'r adborth hwn yn parhau i ffurfio'r ffordd y mae'r rheoleiddiwr yn gweithio i ddiogelu a gwella gwasanaethau gofal ledled Cymru, gan gefnogi ei fwriad i sicrhau ansawdd, ysgogi gwelliant ac ehangu ei ddylanwad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt.
Cwblhaodd AGC 1,087 o arolygiadau o wasanaethau oedolion cofrestredig, 219 o arolygiadau o wasanaethau plant a 792 o arolygiadau a 154 o gyfarfodydd ansawdd o wasanaethau gofal plant a chwarae yn ystod 2024-25. Darparodd arolygiadau ar y cyd ag asiantaethau partner, gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn, oruchwyliaeth gynhwysfawr o wasanaethau amlasiantaethol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.