Rhannwch eich barn am y Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
Byddwn yn arolygu gwasanaethau mabwysiadu ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg yn fuan. Os ydych wedi defnyddio neu wedi cefnogi'r gwasanaethau hyn, hoffem glywed gennych.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2025, byddwn yn arolygu Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, sef y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol ar gyfer pobl sy'n byw yn yr awdurdodau lleol canlynol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Bro Morgannwg
Pam rydym yn gofyn am eich barn
Rydym am ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio i bawb sy'n ymwneud â nhw. Bydd eich profiadau yn ein helpu i edrych ar ansawdd y gofal a'r cymorth sy'n cael eu darparu. Mae hyn yn cynnwys beth sy'n gweithio'n dda a lle y gallai pethau fod yn well.
Bydd eich adborth yn llywio ein harolygiad yn uniongyrchol.
Pwy rydym am glywed ganddynt
Rydym yn croesawu adborth gan deuluoedd biolegol, rhieni sydd wedi mabwysiadu a phobl sydd wrthi'n cael eu hasesu fel rhieni i fabwysiadu. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gwasanaethau mabwysiadu yn yr ardaloedd hyn.
Sut i gymryd rhan?
Cwblhewch ein harolwg erbyn 24 Tachwedd:
- Cwblhewch yr arolwg teuluoedd biolegol (Dolen allanol)
- Cwblhewch arolwg ‘pawb arall’ (Dolen allanol)
Neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 os byddai'n well gennych roi eich adborth dros y ffôn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn yn defnyddio'r hyn a ddywedwch wrthym i lywio ein harolygiad o Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Ar ôl yr arolygiad, byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ac unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.
Diolch am roi o'ch amser i rannu eich barn. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio a gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.