Hoffem glywed eich barn ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Yn ystod mis Chwefror 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych chi neu eich teulu yn cael gwasanaethau gan dîm gwasanaethau plant Cyngor Blaenau Gwent, hoffem glywed am eich profiad
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 13 Chwefror.
- Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)
- Arolwg hawdd ei ddeall i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.