Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Ionawr 2026
  • Newyddion

Hysbysiad pwysig – gwaith cynnal a chadw system AGC Ar-lein: 28 Ionawr i 4 Chwefror

Ni fydd rhai o'n gwasanaethau ar-lein ar gael rhwng hanner dydd, ddydd Mercher 28 Ionawr a 9:00 y.b, ddydd Mercher 4 Chwefror.

Byddwn yn cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y system rhwng hanner dydd, ddydd Mercher 28 Ionawr a 9:00 y.b, ddydd Mercher 4 Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd rhai o'n gwasanaethau ar-lein ar gael dros dro.

Os ydych yn ddarparwr cofrestredig sy'n defnyddio AGC Ar-lein

Yn ystod y cyfnod cynnal a chadw, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • mewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein
  • cyflwyno hysbysiadau statudol
  • cael gafael ar eich cofnodion darparwr

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud:

Cwblhewch unrhyw hysbysiadau rydych yn ymwybodol ohonynt erbyn 11.55am ddydd Mercher 28 Ionawr a chadwch unrhyw wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch o'ch cyfrif. 

Os bydd angen i chi gysylltu â ni ar frys, gallwch wneud y canlynol:

  • E-bostio agc@llyw.cymru neu
  • Ein ffonio ar 0300 7900 126 (o 9.00am ar 29 Ionawr) *

Ar gyfer hysbysiadau brys:

Os bydd gennych hysbysiad brys mewn perthynas â diogelu neu ddigwyddiad difrifol, e-bostiwch agc@llyw.cymru gan nodi 'HYSBYSIAD BRYS' fel pennawd. Ar gyfer hysbysiadau eraill, dylech aros i'r system gael ei hadfer. Ni chewch eich cosbi am unrhyw oedi.

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd

Yn ystod y cyfnod cynnal a chadw, ni fyddwch yn gallu mynegi pryder ar-lein. Os byddwch am fynegi pryder rhwng hanner dydd, ddydd Mercher 28 Ionawr a 9:00 y.b, ddydd Mercher 4 Chwefror, gallwch wneud y canlynol:

* PWYSIG: Rydym yn cau ein llinellau ffôn rhwng hanner dydd 28 Ionawr a 9.00am 29 Ionawr. Ar gyfer pryderon neu ymholiadau brys yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i agc@llyw.cymru.

Bydd Cyfeiriadur AGC a gwefan AGC yn parhau i fod ar gael drwy gydol y cyfnod cynnal a chadw, yn dangos gwybodaeth am ddarparwyr fel yr oedd adeg cau'r system.

Ar ôl y gwaith cynnal a chadw

Pan fydd y gwaith cynnal a chadw wedi'i gwblhau, bydd pob gwasanaeth yn gweithredu fel arfer. Bydd darparwyr gofal cofrestredig yn cael neges e-bost yn cadarnhau pan fydd AGC Ar-lein ar gael eto.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, a diolch i chi am ddeall.