DIWEDDARIAD PWYSIG: Mae gwaith cynnal a chadw system AGC Ar-lein yn dechrau heddiw
Nid yw rhai o’n gwasanaethau ar-lein ar gael ar hyn o bryd. Bydd y gwasanaethau hyn ar gael eto o 9:00 y.b, 4 Chwefror.
Os ydych yn ddarparwr cofrestredig sy'n defnyddio AGC Ar-lein
Yn ystod y cyfnod cynnal a chadw, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- mewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein
- cyflwyno hysbysiadau statudol
- cael gafael ar eich cofnodion darparwr
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud:
Os bydd angen i chi gysylltu â ni ar frys, gallwch wneud y canlynol:
- E-bostio agc@llyw.cymru neu
- Ein ffonio ar 0300 7900 126 (o 9.00y.b ar 29 Ionawr) *
Ar gyfer hysbysiadau brys
Os bydd gennych hysbysiad brys mewn perthynas â diogelu neu ddigwyddiad difrifol, e-bostiwch agc@llyw.cymru gan nodi 'HYSBYSIAD BRYS' fel pennawd. Ar gyfer hysbysiadau eraill, dylech aros i'r system gael ei hadfer. Ni chewch eich cosbi am unrhyw oedi.
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd
Yn ystod y cyfnod cynnal a chadw, ni fyddwch yn gallu mynegi pryder ar-lein. Os byddwch am fynegi pryder rhwng hanner dydd, ddydd Mercher 28 Ionawr a 9:00 y.b, ddydd Mercher 4 Chwefror, gallwch wneud y canlynol:
- E-bostio agc@llyw.cymru neu
- Ein ffonio ar 0300 7900 126 (o 9.00y.b ar 29 Ionawr) *
* PWYSIG: Rydym yn cau ein llinellau ffôn rhwng hanner dydd 28 Ionawr a 9.00y.b 29 Ionawr. Ar gyfer pryderon neu ymholiadau brys yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i agc@llyw.cymru.
Bydd Cyfeiriadur AGC a gwefan AGC yn parhau i fod ar gael drwy gydol y cyfnod cynnal a chadw, yn dangos gwybodaeth am ddarparwyr fel yr oedd adeg cau'r system.
Ar ôl y gwaith cynnal a chadw
Pan fydd y gwaith cynnal a chadw wedi'i gwblhau, bydd pob gwasanaeth yn gweithredu fel arfer. Bydd darparwyr gofal cofrestredig yn cael neges e-bost yn cadarnhau pan fydd AGC Ar-lein ar gael eto.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, a diolch i chi am ddeall.