Adroddiad arolygu yn nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yng Ngwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
AGC yn canfod trefniadau llywodraethu cryf, ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac asesiadau cynhwysfawr mewn perthynas â mabwysiadwyr yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, ond yn nodi bod angen gwelliannau o ran cydymffurfio'n gyson â gofynion mewn perthynas â'r Gymraeg, tegwch o ran cymorth mabwysiadu a phrosesau cryfach ar gyfer goruchwylio ymweliadau dirybudd.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (FCC) a gynhaliwyd rhwng 1 a 5 Rhagfyr 2025. Datgelodd yr arolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar sut mae'r gwasanaeth yn hybu llesiant a diogelwch plant drwy leoliadau mabwysiadu parhaol, gryfderau ynghyd â meysydd yr oedd angen eu gwella.
Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yw'r gydweithredfa fabwysiadu ranbarthol sy'n gwasanaethu pobl sy'n byw ym Mro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Cryfderau a nodwyd
Nododd arolygwyr AGC fod gan FCC drefniadau llywodraethu cryf, gyda chytundeb partneriaeth sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd a chylch gorchwyl clir sy'n cefnogi tryloywder ac atebolrwydd. Mae'r arweinwyr yn dangos gweledigaeth ac uchelgais clir ar gyfer y gwasanaeth, ac mae partneriaeth gadarn rhwng y gydweithredfa a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS).
Mae'r asesiadau o ddarpar fabwysiadwyr yn gadarn ac yn gynhwysfawr, gyda'r ymarferwyr yn casglu gwybodaeth fanwl am gefndiroedd yr ymgeiswyr, eu cymhelliant a'u gallu i ddiwallu anghenion plant. Mae'r rhan fwyaf o ddarpar fabwysiadwyr yn nodi eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda drwy gydol y broses asesu. Mae'r hyfforddiant a ddarperir i fabwysiadwyr yn cael ei ganmol, gan baratoi ymgeiswyr at realiti rhieni sy'n mabwysiadu a hybu dealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae'r gwasanaeth wedi rhoi egwyddorion Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ar waith, gan gefnogi penderfyniadau amserol sy'n canolbwyntio ar y plentyn a hybu sefydlogrwydd cynnar i blant. Y rhanbarth hwn sydd wedi cymeradwyo'r nifer uchaf o fabwysiadwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yng Nghymru.
Mae'r broses o ddod o hyd i deuluoedd yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar y plentyn, gyda'r ymarferwyr yn cydweithio i nodi teuluoedd addas heb unrhyw oedi diangen. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i'w gweld fel rhan o arferion y gwasanaeth, gan gefnogi mabwysiadwyr sengl a mabwysiadwyr o'r un rhyw a rhoi sylw rhagweithiol i leoliadau sy'n ystyried ffactorau diwylliannol.
Mae'r gweithlu yn sefydlog ac yn brofiadol, a chaiff y rheolwyr eu disgrifio fel unigolion gweladwy a chefnogol sy'n hawdd mynd atynt. Mae'r ymarferwyr yn nodi lefelau morâl uchel ac yn gwerthfawrogi'r cymorth a roddir. Mae nifer y sylwadau canmoliaethus a geir yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol ymarferwyr, sy'n aml yn cael eu cydnabod am eu sgiliau eirioli, eu hempathi a'u hymrwymiad.
Meysydd i'w gwella
Nododd yr arolygiad hefyd feysydd yr oedd angen eu gwella. Er bod y Datganiad o Ddiben yn cael ei adolygu bob blwyddyn, nid yw pob ymarferydd na phob aelod o'r panel yn gyfarwydd â'r fersiwn ddiweddaraf. Rhaid i FCC sicrhau y caiff y Datganiad o Ddiben ei rannu a'i drafod yn rheolaidd a'i roi ar waith ym mhob agwedd ar y broses o ddarparu'r gwasanaeth.
Er bod y Cynnig Rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg yn cael ei weithredu fel mater o drefn, nododd rhai pobl fylchau yn y ddarpariaeth Gymraeg. Rhaid i'r gwasanaeth sicrhau ei fod yn cydymffurfio'n gyson â safonau'r Gymraeg yn unol â fframwaith ‘Mwy na Geiriau'.
Mae'r gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu gwerthfawrogi gan deuluoedd, ond gallant amrywio gan ddibynnu pa awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y plentyn. Mae'r amseroedd aros ar gyfer cymorth therapiwtig arbenigol yn achosi her o hyd. Rhaid i FCC adolygu ei chapasiti a'r adnoddau a ddyrennir er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu mewn ffordd deg a chyson ledled y rhanbarth.
Nododd yr arolygiad hefyd nad yw'r systemau yn sicrhau y caiff ymweliadau dirybudd â darpar fabwysiadwyr ar ôl i blentyn gael ei leoli eu cofnodi a'u monitro'n gyson. Rhaid i FCC roi trefniadau monitro addas ar waith yn unol â chanllawiau diogelu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Y camau nesaf
Mae AGC yn gofyn i FCC lunio cynllun gwella yn amlinellu'r ffordd y bydd yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Bydd AGC yn adolygu cynnydd drwy gyfarfod â'r Pennaeth Gwasanaethau Plant a'r Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol o fewn 18-24 mis i gyhoeddi'r adroddiad.
Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod, i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.