Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 18 Mawrth 2026
  • Newyddion

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Ynys Môn

Canfyddiadau o'n harchwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Sir Ynys Môn ym mis Ionawr 2026, yn amlinellu cryfderau a meysydd i'w gwella.

Gwnaethom gwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Sir Ynys Môn yn ddiweddar. 

Roedd yr archwiliad sicrwydd, a gynhaliwyd rhwng 12 a 16 Ionawr 2026, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth. 

Ar y cyfan, gwelsom wasanaeth â chryfderau clir o ran diogelu, ymarfer ataliol a gweithio mewn partneriaeth, a gaiff ei arwain gan arweinwyr profiadol a gweladwy a'i gefnogi gan weithlu medrus ac ymrwymedig. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn wynebu pwysau gwirioneddol a chynyddol sy'n deillio o alw cynyddol, a nodwyd  nifer o feysydd i'w gwella.

Cryfderau allweddol a nodwyd

Mae lleisiau'r plant yn gryf yn y rhan fwyaf o'r cofnodion, ac mae'r ymarferwyr yn defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar gryfderau er mwyn hybu llais ac annibyniaeth y plant. Yn yr enghreifftiau gorau, mae'r ymarferwyr yn ysgrifennu cofnodion yn uniongyrchol ar gyfer plant yn naratif y person cyntaf - ymarfer cadarnhaol sy'n sicrhau bod profiadau, dymuniadau a theimladau'r plant yn parhau'n ganolog.

Mae'r arweinwyr yn rhoi pwyslais cryf ar gymorth cynnar ac atal. Mae'r Hwb Cymorth Cynnar, sy'n cyfarfod ddwywaith yr wythnos gyda chynrychiolaeth amlasiantaeth eang, yn hyrwyddo ymatebion amserol a chydgysylltiedig sy'n blaenoriaethu atal anghenion rhag dwysáu ac ymyriadau cynnar. Caiff ymarfer sy'n ystyriol o drawma ei ymgorffori'n dda ym mhob rhan o'r awdurdod lleol, gan gynnwys mewn lleoliadau addysg, ac mae'n cael ei rannu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae'r llwybr cyn-geni yn enghraifft benodol o ymarfer cadarnhaol, ac mae adborth barnwrol cadarnhaol yn cadarnhau ei effaith ar gadw babanod yn ddiogel gartref drwy gynllunio cynnar cadarn.

Mae'r arferion diogelu yn gadarn ac yn gyson ar y cyfan â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a chaiff y rhan fwyaf o'r penderfyniadau a'r camau gweithredu eu cymryd mewn modd amserol. Mae cyfarfodydd strwythuredig rheolaidd, gan gynnwys yr Hwb Cymorth Cynnar, Un Drws Ffrynt a'r Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) yn sicrhau bod pob asiantaeth yn ymwybodol o'r risgiau ac yn gallu cydweithio'n effeithiol.

Mae'r awdurdod lleol wedi datblygu Cartrefi Clyd, sef ei ddarpariaeth gofal ei hun i blant sy'n derbyn gofal, sy'n galluogi plant i gael gofal yn lleol lle mae eu hanghenion cymdeithasol, iechyd, addysg ac iaith yn cael eu diwallu. 

Mae'r fenter Tyfu Eich Hun, sy'n helpu ymarferwyr i wneud cynnydd i rolau gwaith cymdeithasol cymwysedig, yn enghraifft o ymarfer cadarnhaol sy'n cryfhau prosesau cynllunio olyniaeth, y gallu i gadw staff a sefydlogrwydd y gwasanaeth.

Meysydd i'w gwella

Nodwyd nifer o feysydd i'w gwella. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau'n gyson bod lleisiau'r plant yn cael eu cofnodi'n glir yn yr holl gofnodion perthnasol, bod eiriolaeth ffurfiol yn cael ei chynnig yn rhagweithiol, ei hailgynnig, a'i darparu mewn modd amserol. Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd gryfhau ei broses o gynnig asesiadau gofalwyr ffurfiol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae'r safonau cofnodi yn amrywiol, ac nid yw'r canlyniadau mewn cynlluniau bob amser yn rhai CAMPUS, gan gyfyngu ar oruchwylio cynnydd yn effeithiol.

Mae'r galw cynyddol yn rhoi pwysau ar gapasiti'r gweithlu, a dim ond 45% o'r ymatebwyr i'r arolwg a ddywedodd eu bod yn ei chael hi'n hawdd cysylltu â gwasanaethau plant. Yn gadarnhaol, mae'r awdurdod lleol wedi comisiynu adolygiad allanol o wasanaethau ataliol cynnar, a dylai fwrw ymlaen ag unrhyw argymhellion i sicrhau bod digon o wasanaethau cymorth  cynnar ar gael.  Dylai'r awdurdod lleol hefyd barhau â'i ymdrechion i sicrhau bod amrywiaeth ddigonol o leoliadau addas ar gael i blant ag anghenion cymhleth, gan gynnwys rhai ag anghenion iechyd ychwanegol.

Nid yw'r fframwaith sicrhau ansawdd wedi cael ei ymgorffori'n llawn eto yn dilyn proses ailstrwythuro ddiweddar, a dylai'r awdurdod lleol sicrhau y caiff hyn ei ymgorffori'n gadarn yn ymarferol.Dylai trafodaethau strategaeth gynnwys pob ymarferydd perthnasol o asiantaethau eraill yn gyson, a dylai penderfyniadau a chamau gweithredu gael eu gwneud mewn modd amserol bob amser ac yn unol â'r gweithdrefnau perthnasol. Dylai'r awdurdod lleol hefyd barhau â'i waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i'r afael â heriau o ran prosesau integreiddio iechyd.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.