Adroddiad Blynyddol: Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru 2024-2025
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) y cyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad monitro blynyddol ar gyfer 2024-2025 ar ddefnyddio'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru.
Mae DoLS yn cynnig amddiffyniadau cyfreithiol hanfodol ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Maent yn bodoli i amddiffyn hawliau dynol unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol am eu gofal neu driniaeth. Mae'r trefniadau yn sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau ar ryddid person yn gyfreithlon, yn briodol, ac yn gymesur, a bod penderfyniadau a wneir ar eu rhan er eu budd pennaf.
Mae DoLS yn berthnasol i oedolion 18 oed a throsodd na allant gydsynio i'w trefniadau gofal mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol clir er mwyn atal achosion amddifadu o ryddid ac yn helpu i gynnal yr hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Canfyddiadau Allweddol
Mae'r adroddiad yn dangos bod mwy o geisiadau DoLS yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gyda chynnydd o 10% (1,165) mewn ceisiadau i awdurdodau lleol a chynnydd o 23% (1,739) mewn ceisiadau i fyrddau iechyd yn 2024-2025. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr asesiadau a gwblhawyd hefyd, gydag awdurdodau lleol yn cynnal 862 o asesiadau, sef cynnydd o 15%, a byrddau iechyd yn cwblhau 3,048 o asesiadau.
Fodd bynnag, mae'r system yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae oedi wrth ddyrannu, asesu ac awdurdodi ceisiadau yn parhau, sy'n golygu bod nifer o bobl yn parhau i gael eu hamddifadu o'u rhyddid heb y trefniadau cyfreithiol i'w hamddiffyn. Mewn nifer o achosion, nid yw byrddau iechyd nac awdurdodau lleol yn bodloni'r amserlenni statudol. Mae awdurdodiadau brys yn parhau i ddod i ben cyn y gellir cwblhau asesiad, sy'n gadael pobl mewn sefyllfaoedd ansicr yn gyfreithiol. Gall fod o fudd i rai awdurdodau lleol adolygu eu prosesau ar gyfer awdurdodiadau brys ar y cyd â'r awdurdodau rheoli.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn parhau i wynebu heriau wrth ddyrannu ceisiadau awdurdodi pellach. Mae hyn yn cynyddu'r risg y bydd pobl yn parhau i gael eu hamddifadu o'u rhyddid heb amddiffyniad asesiad cyfredol. Mae'n hollbwysig bod pob corff goruchwylio yn sicrhau bod ceisiadau'n cael eu hasesu o fewn yr amserlenni a nodir yn y Cod Ymarfer.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod amodau yn cael eu defnyddio'n anghyson ledled Cymru. Dylid rhoi amodau ar waith lle bynnag y bo'n bosibl i wella canlyniadau i unigolion, yn benodol lle y gallant leihau neu ddileu cyfyngiadau ar ryddid person.
Er gwaethaf yr heriau hyn, ceir enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn parhau i gael eu cefnogi a'u cynrychioli yn ystod y broses DoLS, sy'n helpu i sicrhau bod eu hawliau a'u dymuniadau'n cael eu hystyried. Fodd bynnag, mae'r broses ar gyfer cofnodi ethnigrwydd yn annigonol o hyd, gan nad oedd 22% o geisiadau i awdurdodau lleol ac 11% o geisiadau i fyrddau iechyd yn cofnodi ethnigrwydd y person. Heb ddata cyflawn a chyson, nid yw'n bosibl deall a all prosesau DoLS effeithio ar unrhyw grwpiau mewn ffordd anghymesur neu a ydynt o dan anfantais.
Edrych tuag at y dyfodol
Mae adroddiad eleni yn nodi meysydd i'w gwella a heriau parhaus sylweddol. Mae AGIC ac AGC yn parhau'n ymrwymedig i fonitro ac adrodd ar y defnydd o'r broses DoLS i sicrhau bod y trefniadau diogelu yn gweithio fel y bwriadwyd a bod hawliau pobl yn cael eu cynnal.