Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Ebrill 2026
  • Newyddion

Datganiad blynyddol 2026: mae'r ffenestr bellach ar agor ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant

Rhaid i ddarparwyr gofal yng Nghymru gyflwyno eu datganiad blynyddol erbyn 26 Mai 2026. Eleni, mae gofynion cyfreithiol newydd yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr hefyd gyhoeddi eu datganiad blynyddol ar eu gwefan eu hunain erbyn 30 Mehefin 2026.

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi agor y ffenestr ar gyfer datganiadau blynyddol 2026 i bob darparwr gwasanaethau oedolion a phlant cofrestredig yng Nghymru. 

Bydd y ffenestr ar gyfer datganiadau blynyddol yn parhau ar agor tan 23:59 ar 26 Mai 2026. Mae'n ofynnol i bob darparwr sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) gwblhau a chyflwyno ei ddatganiad drwy ei gyfrif AGC Ar-lein. 

Gofyniad cyfreithiol newydd o ran tryloywder 

Mae datganiad blynyddol eleni yn wahanol i unrhyw ddatganiad blynyddol blaenorol. Am y tro cyntaf, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gyhoeddi'r datganiad blynyddol a gyflwynwyd ganddynt ar eu gwefan eu hunain erbyn 30 Mehefin 2026. Yn y gorffennol, roedd AGC yn cyhoeddi datganiadau blynyddol ar ran darparwyr. Mae'r cyfrifoldeb hwnnw bellach yn trosglwyddo'n uniongyrchol i ddarparwyr, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd ar draws gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yng Nghymru. 

Mae'r newid, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2025, yn golygu y bydd pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal, eu teuluoedd, a'r cyhoedd ehangach yn gallu gweld gwybodaeth am eu gwasanaeth lleol yn uniongyrchol ar wefan y darparwr ei hun. 

Mae methu â chyhoeddi datganiad blynyddol yn torri rhwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf.

Cyfuno prosesau casglu data ar draws y sector 

Mae datganiad blynyddol 2026 hefyd yn adlewyrchu datblygiad pwysig yn y ffordd y caiff data eu casglu ar draws y sector gofal yng Nghymru. Mae AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyfuno eu prosesau casglu data, gan uno datganiad blynyddol AGC a chasgliad data'r gweithlu blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru i greu un datganiad. 

Yn y gorffennol, gofynnwyd i ddarparwyr gwblhau dau gasgliad data ar wahân bob blwyddyn; un i AGC ac un i Gofal Cymdeithasol Cymru. O 2026, bydd un datganiad blynyddol yn bodloni'r ddau. Caiff y data a gyflwynir yn y datganiad blynyddol eu rhannu rhwng y ddau sefydliad, gan helpu i greu darlun mwy cyflawn o'r gweithlu gofal ledled Cymru. 

O ganlyniad i'r cwestiynau ychwanegol am y gweithlu, mae'r datganiad blynyddol yn hirach eleni. Fodd bynnag, mae AGC wedi gweithio i leihau'r baich ychwanegol ar ddarparwyr. Mae rhai cwestiynau wedi cael eu symleiddio, mae rhai eraill wedi cael eu dileu'n llwyr, a lle cafwyd ymatebion naratif gan ddarparwyr y llynedd, mae'r ymatebion hyn wedi'u llenwi'n barod i ddarparwyr fwrw golwg drostynt a'u diweddaru. 

Yr hyn sydd angen i ddarparwyr ei wneud

Rhaid i ddarparwyr gwblhau a chyflwyno eu datganiad blynyddol drwy eu cyfrif AGC Ar-lein erbyn 23:59 ar 26 Mai 2026. Dim ond Unigolyn Cyfrifol neu Swyddog Sefydliadol â chyfrif AGC Ar-lein wedi'i alluogi all gyflwyno'r datganiad, ond gall aelodau eraill o staff helpu i'w gwblhau. 

Ar ôl ei gyflwyno, bydd angen i ddarparwyr lawrlwytho eu datganiad blynyddol a'i gyhoeddi ar eu gwefan eu hunain erbyn 30 Mehefin 2026. 

Bydd angen i ddarparwyr nad oes ganddynt wefan ar hyn o bryd greu un cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin. Mae canllawiau ar y gofynion ar gael ar wefan AGC. 

Cymorth sydd ar gael

Mae canllawiau a chwestiynau cyffredin am y datganiad blynyddol ar gael ar wefan AGC. Bydd canllaw cam wrth gam yn dangos sut i lawrlwytho'r datganiad blynyddol hefyd ar gael maes o law. 

Os bydd gan ddarparwyr gwestiynau neu os bydd angen cymorth arnynt, gallant gysylltu ag AGC yn agc@llyw.cymru neu drwy ffonio 0300 7900 126.