Rydym yn croesawu eich barn am Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Yn ystod mis Mehefin 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o'r gwasanaethau Anableddau Dysgu Cymunedol a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot, hoffem glywed am eich profiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 1 Mehefin.
Arolwg safonol (dolen allanol)
Arolwg hawdd ei ddeall (dolen allanol)
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.