Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Abertawe
Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 16 a 19 Mawrth 2026, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth.
Canfyddiadau
Nododd yr arolygiad wasanaeth a oedd wedi'i ysgogi gan werthoedd, gydag arweinyddiaeth amlwg a fframwaith ymarfer ‘Arwyddion Diogelwch’ a oedd wedi'i ymsefydlu'n gadarn.
Mae cyfranogiad plant yn gryfder amlwg, ac mae ymarferwyr yn defnyddio dulliau creadigol i gasglu barn plant a llywio cynlluniau unigol a chynlluniau i ddatblygu'r gwasanaeth.
Mae dulliau atal ac ymyrryd yn gynnar yn cael eu cydgysylltu'n dda, gyda 98% o benderfyniadau Pwynt Cyswllt Unigol yn cael eu gwneud o fewn un diwrnod gwaith.
Nodwyd bod mentrau, gan gynnwys Mewn Gofal o'u Geni, llwybr JIG‑SO a'r Hwb Cam-drin Domestig, yn enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol.
Mae'r trefniadau diogelu wedi'u sefydlu'n dda, ac mae gwaith partneriaeth amlasiantaethol cryf ar waith, yn enwedig mewn perthynas â chamfanteisio a risg gyd-destunol.
Nododd yr arolygiad hefyd feysydd i'w gwella.
Mae rhai plant yn cael eu lleoli o dan drefniadau anghofrestredig oherwydd y pwysau o ran digonolrwydd lleoliadau. Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod plant yn cael eu lleoli mewn gwasanaethau cofrestredig.
Nid yw dogfennaeth cynadleddau ac adolygiadau bob amser yn cael ei rhannu o fewn yr amserlenni gofynnol, ac nid yw'r adborth a roddir i asiantaethau partner ar ôl gwneud atgyfeiriadau diogelu bob amser yn amserol. Rhaid i'r awdurdod lleol fynd i'r afael â'r ddau fater yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylid defnyddio gwybodaeth gronolegol yn fwy cyson hefyd i feithrin dealltwriaeth o niwed cronnus, a dylai'r cofnodion gynnwys gwell tystiolaeth o effaith gweithgarwch sicrhau ansawdd.
Mae AGC yn disgwyl i Gyngor Abertawe fynd i'r afael â'r holl feysydd i'w gwella a nodwyd.
Y camau nesaf
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus. Disgwylir i'r awdurdod lleol hefyd rannu ei enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ag awdurdodau lleol eraill er mwyn helpu i wneud gwelliannau parhaus ledled Cymru.