Hoffem glywed eich barn ar wasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Sir Penfro
Yn ystod mis Tachwedd, byddwn yn cynnal archwiliad gwelliant o wasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Sir Penfro.
Diben yr archwiliad hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Hoffem glywed gan amrywiaeth o bobl sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hyn, neu ddiddordeb ynddynt. P'un a ydych yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio ynddynt, neu os oes gennych ddiddordeb ehangach yn y ffordd y cânt eu darparu, mae eich barn yn bwysig i ni.
Cwblhewch yr arolwg sydd fwyaf perthnasol i chi a chyflwynwch eich adborth erbyn 30/10/2026.
Arolygon archwiliad gwelliant:
- Cwblhau'r arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol [Dolen allanol]
- Cwblhau'r arolwg hawdd ei ddeall i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol [Dolen allanol]
- Cwblhau'r arolwg i staff sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol [Dolen allanol]
- Cwblhau'r arolwg ar gyfer rhanddeiliaid ehangach [Dolen allanol]
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan ar ei ffurf derfynol.