Hoffem glywed eich barn ar wasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Caerdydd
Yn ystod Tachwedd 2026, byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o wasanaethau cymdeithasol oedolion Cyngor Caerdydd.
Diben yr archwiliad hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Hoffem glywed gan amrywiaeth o bobl sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hyn, neu ddiddordeb ynddynt. P'un a ydych yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio ynddynt, neu os oes gennych ddiddordeb ehangach yn y ffordd y cânt eu darparu, mae eich barn yn bwysig i ni.
Cwblhewch yr arolwg sydd fwyaf perthnasol i chi a chyflwynwch eich adborth erbyn 13/11/2026.
Arolygon Arolygiad Gwerthuso Perfformiad:
Arolwg pobl [Dolen allanol]
Arolwg pobl – hawdd ei ddeall [Dolen allanol]
Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan ar ei ffurf derfynol.