Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Hydref 2026
  • Newyddion

Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru yn dangos ansawdd gofal cryf er bod pwysau ar y sector o hyd

Mae ein hadroddiad blynyddol diweddaraf yn dangos bod y rhan fwyaf o wasanaethau gofal a gofal plant yng Nghymru yn cyflawni canlyniadau da neu ragorol, ond yn rhybuddio na ellir cymryd y safonau hyn yn ganiataol o ystyried y pwysau parhaus ar y gweithlu a'r system.

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ei Phrif Arolygydd ar gyfer 2025 i 2026, sy'n dangos bod y rhan fwyaf o wasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru yn cyflawni canlyniadau da neu ragorol i'r bobl sy'n eu defnyddio, ond gan hefyd dynnu sylw at bwysau parhaus ym mhob rhan o'r system. 

Mae'r adroddiad yn dangos bod 90% o'r graddau a ddyfarnwyd i gartrefi gofal i oedolion, gwasanaethau cymorth cartref a chartrefi gofal i blant yn 'dda' neu'n 'rhagorol', gydag 80% o'r graddau gofal plant a chwarae yn cyrraedd yr un safon. 

"Y tu ôl i bob canfyddiad arolygu a phob gradd, mae person y mae ei brofiad yn bwysig. Ni ellir cymryd gofal da yn ganiataol, mae'n gofyn am sylw parhaus i arweinyddiaeth, trefniadau staffio a diogelu. Ond mae'r ymroddiad, y sgiliau a'r tosturi sydd i'w gweld ym mhob rhan o'r sector, a'r ffaith bod pobl yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu clywed a'u bod yn cael gofal wedi codi fy nghalon y flwyddyn hon" 

Gillian Baranski. Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn glir bod ansawdd yn parhau i fod yn anghyson, a bod y sector yn parhau i weithredu dan bwysau parhaus. Nodwyd risgiau parhaus mewn perthynas ag arweinyddiaeth, llywodraethu, rheoli a threfniadau staffio.