Rydym am glywed eich barn cyn ein harolygiad Adran 5 ar y cyd cyntaf yn Rhondda Cynon Taf
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru, ochr yn ochr ag Estyn ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), yn gofyn i bobl, ymarferwyr a'r rhai mewn safle o ymddiriedaeth yn Rhondda Cynon Taf rannu eu barn cyn ein harolygiad ym mis Ionawr 2027.
Daeth y diwygiadau i Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru i rym ym mis Mehefin 2026. Maent yn nodi sut y dylai sefydliadau ymateb i honiadau/pryderon sy'n ymwneud â phobl mewn safle o ymddiriedaeth.
Cadarnhawyd mai Rhondda Cynon Taf fydd lleoliad yr arolygiad cyntaf o dan y rhaglen arolygu ar y cyd newydd, sy'n dwyn ynghyd Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn a HMICFRS i asesu sut mae sefydliadau'n cydweithio i roi'r gweithdrefnau diwygiedig ar waith.
Cyn i'r arolygiad gael ei gynnal, rydym am glywed gan unrhyw un sydd â barn ar sut mae'r gweithdrefnau diwygiedig hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Rydym wedi lansio arolwg byr, dienw sy'n cymryd tua deg munud i'w lenwi.
- Cwblhewch ein harolwg (Dolen allanol)
Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan blant a phobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf am eu profiadau o ddiogelu yn yr ysgol. Gall plant a phobl ifanc rannu eu barn drwy gwblhau un o’r arolygon hyn:
- Cwblhau’r arolwg ‘Diogel ac yn Hapus yn yr Ysgol’ (5–11 oed) (Dolen allanol)
- Cwblhau’r arolwg ‘Diogelwch, Cymorth ac Ymddiriedaeth – Eich Profiad’ (11–16 oed) (Dolen allanol)
- Cwblhau’r arolwg hawdd ei ddeall (Dolen allanol)
Angen siarad â rhywun? Cysylltwch â Meic
Rydym yn gwybod y gall meddwl neu siarad am y pynciau hyn amlygu teimladau, meddyliau, atgofion a phrofiadau anodd. Os ydych yn blentyn ac mae arnoch angen rhywun i siarad ag ef am hyn, neu help i gwblhau'r arolwg, gallwch gysylltu â Meic:
• Ffôn a Neges WhatsApp: 080 880 23456
• Neges Destun: 07943 114 449
• Sgwrs Ar-lein: www.meic.cymru (Dolen allanol)
Bydd unrhyw beth a gaiff ei rannu â Meic yn cael ei drin yn gyfrinachol ac yn ddienw yn unol â'i bolisïau a gweithdrefnau (Dolen allanol). Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu â'r tîm arolygu.