Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant: diweddariad ar gynnydd

Yn 2022, comisiynwyd Arolygiaeth Gofal Cymru gan Lywodraeth Cymru i arwain adolygiad amlasiantaethol cyflym o benderfyniadau yn ymwneud ag amddiffyn plant ledled Cymru.

Ystyriodd yr adolygiad pa mor dda y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yn sicrhau bod plant yn cael eu hychwanegu at y gofrestr amddiffyn plant, a'u tynnu oddi arni, dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Mae'r diweddariad hwn yn amlinellu'r cynnydd sylweddol a wnaed ers cyhoeddi'r adroddiad gwreiddiol ym mis Medi 2023, ynghyd â rhai o'r heriau sy'n bodoli o hyd.