Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad ar archwiliad gwelliant awdurdod lleol: Gwasanaethau oedolion Sir y Fflint

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad archwiliad gwelliant o wasanaethau oedolion Cyngor Sir y Fflint ym mis Mawrth 2026.

Gwnaethom gynnal yr arolygiad archwiliad gwelliant hwn rhwng 9 a 13 Mawrth 2026 er mwyn adolygu'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol yn dilyn ein harolygiad gwerthuso perfformiad yn 2023.

Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; llinellau ymholi allweddol; a'r safonau ansawdd yn y Cod Ymarfer mewn perthynas â gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a pherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol hynny. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth gefnogi, mesur, a chynnal gwelliannau i bobl ac mewn gwasanaethau.