Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad ar Arolygiad Gwerthuso Perfformiad: Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ddinbych

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ddinbych a gynhaliwyd rhwng 8 a 12 Medi 2025.

Cynhaliwyd yr arolygiad hwn i adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Canolbwyntiodd yr arolygiad hwn ar effeithiolrwydd gwasanaethau'r awdurdod lleol a'r trefniadau sydd ar waith i helpu pobl, eu cefnogi a'u hamddiffyn.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.