Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Ionawr 2026
  • Newyddion

Adroddiad arolygu yn nodi cryfderau a meysydd blaenoriaeth i'w gwella yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Arolygiad AGC yn canfod asesiadau trylwyr o fabwysiadwyr a gwasanaethau cymorth a werthfawrogir yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, gan nodi hefyd welliannau sydd eu hangen o ran llywodraethu, sicrhau ansawdd a rheoli cofnodion.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a gynhaliwyd rhwng 13 Hydref a 17 Hydref 2025. Nododd yr arolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar sut mae'r gwasanaeth yn hybu llesiant a diogelwch plant drwy leoliadau mabwysiadu parhaol, gryfderau a meysydd blaenoriaeth i'w gwella. 

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yw'r gydweithredfa fabwysiadu ranbarthol sy'n gwasanaethu Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. 

Cryfderau a nodwyd 

Canfu arolygwyr AGC fod asesiadau o ddarpar fabwysiadwyr yn drylwyr ac yn rhoi sylw i ddiogelu a rheoli risgiau. Mae'r gwasanaeth yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr i fabwysiadwyr ac yn eu paratoi'n drylwyr, ac mae adnoddau dwyieithog ar gael. Dywedodd nifer o fabwysiadwyr wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cefnogi gan weithwyr cymdeithasol, a bod gwybodaeth yn cael ei darparu mewn modd amserol a hygyrch. Mae'r rhan fwyaf o fabwysiadwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddeall effaith bosibl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. 

Mae'r broses o ddod o hyd i deuluoedd a'r broses baru yn blaenoriaethu anghenion y plant, ac mae cydgynllunio yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol. 

Caiff gwasanaethau cymorth mabwysiadu eu gwerthfawrogi gan deuluoedd ac ymarferwyr. Maent yn dangos ymrwymiad cryf i'r Gymraeg a hygyrchedd, ac mae gwybodaeth a chymorth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg fel mater o drefn. Mae'r ymarferwyr yn hyrwyddo'r cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg yn unol â fframwaith ‘Mwy na Geiriau’, sy'n sicrhau bod pobl yn gallu cael gwasanaethau yn Gymraeg. 

Mae'r gwasanaeth yn darparu gwasanaethau cyfryngol sy'n cefnogi oedolion sydd wedi cael eu mabwysiadu a pherthnasau biolegol i ddeall eu hanes a chael gafael ar wybodaeth. Mae'r ymarferwyr yn dangos sgìl a sensitifrwydd wrth reoli hanesion cymhleth. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru wedi penodi gweithiwr cymdeithasol gwaith taith bywyd sy'n rhoi arweiniad effeithiol i ymarferwyr ac yn sicrhau ansawdd. 

Mae'r trefniadau panel yn dda, ac mae arbenigedd amrywiol yn amlwg ymhlith yr aelodau. Mae'r gwasanaeth yn elwa ar weithlu ymroddedig a medrus o ymarferwyr sy'n gwerthfawrogi eu rheolwyr llinell ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae'r ymarferwyr yn cael sesiynau goruchwylio rheolaidd sy'n rhoi pwyslais cryf ar lesiant y staff.

Meysydd blaenoriaeth i'w gwella 

Nododd yr arolygiad feysydd blaenoriaeth i'w gwella. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cymhwyso polisïau a gweithdrefnau'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ond nid yw'r rhain wedi'u hymgorffori'n llawn ym mhob rhan o'r gwasanaeth eto. Mae manylder y gwaith dadansoddi mewn asesiadau a'r broses o integreiddio dulliau rhianta therapiwtig yn anghyson. 

Mae ansawdd y gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r gallu i gael gafael arnynt yn amrywio, ac mae rhestrau aros yn effeithio ar rai teuluoedd. Mae oedi sylweddol cyn prosesu asesiadau rhai mabwysiadwyr, weithiau dros chwe mis, o ganlyniad i argaeledd cyfyngedig ymarferwyr i gynnal asesiadau neu brosesau gweinyddol. 

Mae'r cynlluniau cymorth mabwysiadu yn aml yn adlewyrchu anghenion y plant wrth iddynt gael eu mabwysiadu ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, ond nid ydynt bob amser yn ystyried anghenion yn y dyfodol ac anghenion sy'n newid. 

Nid yw'r Bwrdd Rheoli Rhanbarthol yn cynnwys cynrychiolaeth ddigonol gan uwch-arweinwyr sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau o bob awdurdod lleol a phartner allweddol, sy'n arwain at oedi wrth wneud penderfyniadau. Mae amrywiadau mewn ymarfer lleol yn effeithio ar gysondeb ac ansawdd, ac mae diffyg dull unedig o ddarparu cymorth, gwneud penderfyniadau a sicrhau ansawdd yn arwain at brofiadau anghyson.

Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru fesurau sicrhau ansawdd cyfyngedig, ac nid yw'n glir pa mor aml y mae archwiliadau'n cael eu cynnal na pha mor gyson ydynt. Nid oes polisi rheoli cofnodion sy'n benodol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, ac ar hyn o bryd, ni all y gwasanaeth nodi ble mae'r holl gofnodion mabwysiadu yn cael eu storio, sy'n fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar frys. 

Y camau nesaf 

Mae AGC yn gofyn i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru lunio cynllun gwella yn amlinellu'r ffordd y bydd yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Bydd AGC yn adolygu cynnydd drwy gyfarfod â'r Pennaeth Gwasanaethau Plant a'r Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol o fewn 18-24 mis i gyhoeddi'r adroddiad. 

Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod, i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.