Adroddiad arolygu yn nodi cryfderau a meysydd i'w gwella sydd eu hangen yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin
Mae arolygiad gan AGC yn nodi gwasanaethau cymorth mabwysiadu a gwaith taith bywyd cadarn ym Mae'r Gorllewin, wrth nodi'r gwelliannau sydd eu hangen i gydymffurfio ag adolygiadau o ansawdd y gwasanaeth a rheoli cofnodion.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin a gynhaliwyd rhwng 1 Medi a 5 Medi 2025. Datgelodd yr arolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar sut mae'r gwasanaeth yn hybu llesiant a diogelwch plant drwy leoliadau mabwysiadu parhaol, gryfderau sylweddol ynghyd â meysydd yr oedd angen eu gwella.
Cryfderau cymorth mabwysiadu allweddol a nodwyd
Dangosodd Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin, sef y gydweithredfa fabwysiadu ranbarthol sy'n gwasanaethu pobl sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gryfderau amlwg mewn perthynas â gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Nododd arolygwyr AGC fod y gwasanaethau hyn yn ymatebol, yn hygyrch ac wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion y plant, y mabwysiadwyr, a'r teuluoedd biolegol. Mae'r gwasanaeth wedi datblygu hwb rhithwir a hwb taith bywyd/cyswllt dynodedig, sy'n galluogi teuluoedd i gael cyngor a chymorth yn brydlon. Nid oes rhestrau aros hir ar gyfer gwasanaethau cymorth, ac mae sgyrsiau rheolaidd 12 mis a thair blynedd ar ôl mabwysiadu yn helpu i nodi anghenion sy'n codi yn gynnar.
Nododd yr arolygiad fod y prosesau o asesu darpar fabwysiadwyr yn gadarn ac yn gynhwysfawr, ac yn cael eu cwblhau gan weithlu profiadol. Roedd mabwysiadwyr o'r farn eu bod yn cael eu cefnogi'n dda drwy gydol y broses, a dywedodd un ohonynt: “our experience of WBAS has been nothing but positive, professional, supportive and wonderful. We were kept up to date throughout the process."
Nodwyd bod gwaith taith bywyd yn gryfder penodol, ac mae'r ymarferwyr yn cynhyrchu deunyddiau ar y cyd â gofalwyr maeth, teuluoedd biolegol a mabwysiadwyr. Mae'r holl waith taith bywyd yn mynd drwy broses sicrhau ansawdd gadarn, ac mae'r ymarferwyr, y rheolwyr, a'r panel mabwysiadu yn adolygu'r deunyddiau. Mae Tîm Therapi a Seicoleg y gwasanaeth yn cwblhau gwaith taith bywyd fel rhan o'i adnoddau amlddisgyblaethol.
Roedd y gwasanaeth hefyd yn dangos arferion da drwy weithio gyda rhieni biolegol drwy ddulliau sensitif a hyblyg. Mae grŵp cymorth rhieni biolegol dynodedig ar waith, a nododd un rhiant biolegol: "the service helps me write to my son… they understand my disabilities and difficulties and help me the best they can."
Gwelwyd fod yr arweinyddiaeth yn amlwg ac yn uchelgeisiol, ac mae rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio'n glir. Mae'r gweithlu yn sefydlog ac yn ddigonol, a dywedodd yr ymarferwyr eu bod yn gallu ymdopi â'r llwythi achosion. Nodwyd trefniadau'r gyllideb gyfun ymhlith y cryfderau, gan sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau amserol a rhanbarthol ynglŷn ag adnoddau a chymorth.
At hynny, mae'r gwasanaeth yn darparu gwasanaethau cyfryngol amserol a hygyrch heb unrhyw restrau aros sy'n helpu oedolion a gafodd eu mabwysiadu a pherthnasau biolegol i ddeall eu hanes a chael gafael ar wybodaeth.
Meysydd i'w gwella
Nododd yr arolygiad feysydd yr oedd angen eu gwella. Er bod prosesau sicrhau ansawdd effeithiol ar waith, dylai Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin sicrhau bod yr adolygiadau o ansawdd y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion rheoliadol. Dylai'r gwasanaeth hefyd sicrhau bod ei drefniadau ar gyfer rheoli cofnodion yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion statudol.
Gwnaeth AGC argymhellion, gan gynnwys y dylai Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin barhau i ymgorffori fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru er mwyn sicrhau gwaith cynllunio sefydlogrwydd cyson ac amserol. Dylai'r gwasanaeth hefyd wella ei drefniadau cyfathrebu a'i ddeunyddiau ysgrifenedig er mwyn sicrhau y rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i'r holl fabwysiadwyr am yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu a hawliau gydol oes sydd ar gael iddynt.
Dylai'r gwasanaeth ddiweddaru ei gytundeb partneriaeth fel mater o flaenoriaeth i gefnogi trefniadau llywodraethu a chydymffurfiaeth effeithiol, a pharhau i gwblhau'r trefniadau i sicrhau bod cyngor meddygol teg ar gael i bob plentyn ledled y rhanbarth.
Y camau nesaf
Mae AGC yn gofyn i Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin lunio cynllun gwella yn amlinellu'r ffordd y bydd yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Bydd AGC yn adolygu cynnydd drwy gyfarfod â'r Pennaeth Gwasanaethau Plant a'r Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol o fewn 18-24 mis i gyhoeddi'r adroddiad.
Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod, i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.