Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Awst 2025
  • Newyddion

Adroddiad arolygu yn tynnu sylw at berfformiad cymysg yng Nghydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

Datgelodd yr arolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar sut mae'r gwasanaeth yn hybu llesiant a diogelwch plant drwy leoliadau mabwysiadu parhaol, gryfderau a meysydd i'w gwella.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad o Gydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, a gynhaliwyd rhwng 28 Ebrill a 1 Mai 2025. Mae'r gydweithredfa yn cynnwys awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, a Phowys.

Canfyddiadau allweddol yr arolygiad

Dangosodd Cydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru arferion cadarn wrth asesu a hyfforddi darpar fabwysiadwyr. Nododd arolygwyr AGC fod y prosesau hyn yn gynhwysfawr, gan roi sicrwydd cadarn ynghylch addasrwydd ymgeiswyr i fod yn rhieni sy'n mabwysiadu.

Dangosodd y gydweithredfa hefyd brosesau effeithiol ar gyfer paru plant â darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy. O'r hyn a welwyd, nododd y panel ymarfer cryf, gydag argymhellion amserol a gwybodus yn cael eu gwneud at y sawl sy'n gwneud penderfyniadau.

Fodd bynnag, tynnodd yr arolygiad sylw at sawl her. Nid oes gan Gydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru gytundeb partneriaeth wedi'i lofnodi ar hyn o bryd, sydd wedi arwain at anawsterau rheoli strategol ac anghysondebau o ran y gwasanaeth a ddarperir. Mae'r arweinwyr wedi cydnabod bod angen ffurfioli'r trefniadau llywodraethu a'u gwella, a lluniwyd gweithgor i ddatblygu cytundeb partneriaeth wedi'i lofnodi erbyn mis Hydref 2025.

Nodwyd bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn amrywio o ran ansawdd a hygyrchedd, gyda rhestrau aros yn effeithio ar allu rhai teuluoedd i gael cymorth amserol. Dangosodd ymatebion teuluoedd sy'n mabwysiadu i’r arolwg brofiadau cymysg o ran y cymorth a ddarperir, ac roedd y cynlluniau cymorth mabwysiadu yn anghyson o ran ansawdd a manylder.

Nododd yr adroddiad hefyd fod y systemau electronig gwahanol a oedd ar waith yn y gydweithredfa yn atal effeithlonrwydd, ac nid ystyriwyd bod mesurau sicrhau ansawdd yn ddigonol.

Y camau nesaf

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi gofyn i Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru am gynllun gwella sy'n amlinellu sut y byddant yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio i fesur cynnydd a llunio ffocws arolygiadau yn y dyfodol.

Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.