Adroddiad gwiriad gwella awdurdod lleol: Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Penfro
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad gwiriad gwella o wasanaethau oedolion Cyngor Sir Penfro ym mis Gorffennaf 2025.
Gwnaethom gynnal yr arolygiad gwiriad gwella hwn rhwng 8 a 9 Gorffennaf 2025 er mwyn adolygu'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol yn dilyn ein harolygiad gwerthuso perfformiad ym mis Ebrill 2024.
Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; llinellau ymholi allweddol; a'r safonau ansawdd yn y Cod Ymarfer mewn perthynas â gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a pherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol hynny. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth gefnogi, mesur, a chynnal gwelliannau i bobl ac mewn gwasanaethau.
Darllenwch yr adroddiad ar y gwiriad gwella isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.