Amanda Calloway
Cefnogi chwarae penagored a dysgu naturiol.

Cefndir
Dewch i gwrdd ag Amanda, gwarchodwr plant yng Ngogledd Cymru sydd wedi bwrw ati mewn ffordd feddylgar i ddatblygu ei hymarfer ar sail cyfleoedd dysgu a chwarae naturiol dan arweiniad y plentyn. Drwy fyfyrio'n ofalus ac ymgymryd â chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus, mae wedi addasu ei chartref i greu amgylchedd dysgu ystyrlon lle mae gan y plant ryddid i archwilio drwy gyfleoedd chwarae penagored.
Beth y mae’n ei wneud yn wahanol?
Mae Amanda wedi rhoi llawer o arferion arloesol ar waith drwy wneud y canlynol:
- creu amgylchedd sy'n llawn adnoddau naturiol a chynaliadwy wedi'u hailgylchu
- mabwysiadu dull 'cynllunio yn y fan a'r lle' sy'n manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i addysgu
- cadw at grwpiau bach er mwyn sicrhau y gall ymgysylltu'n agos â phob plentyn
- defnyddio darnau rhydd dan do ac yn yr awyr agored i gynnig cyfleoedd archwilio creadigol
- defnyddio llai o deganau traddodiadol gan ddefnyddio mwy o ddeunyddiau penagored
- creu rhwydweithiau cymunedol cadarn er mwyn cael gafael ar adnoddau cynaliadwy
- cynnal asesiadau risg dynamig ar gyfer grwpiau oedran gwahanol
Mae'r lleoliad yn gweithredu gan ddilyn dull dan arweiniad y plentyn, lle gall y plant reoli eu chwarae a'u dysgu. Caiff adnoddau eu dewis yn ofalus i hyrwyddo sgiliau datrys problemau, creadigrwydd ac ymgysylltiad parhaus, a chafwyd gafael ar lawer o'r eitemau drwy roddion cymunedol ac mewn ffyrdd cynaliadwy.
Effaith …
- Gwell sgiliau datrys problemau a meddwl yn feirniadol
- Gallu gwell i ganolbwyntio ac ymgysylltu â chyfleoedd chwarae
- Mwy o hyder wrth ymgymryd â chyfleoedd dysgu hunangyfeiriedig
- Dealltwriaeth ddyfnach o achos ac effaith drwy arbrofi
- Datblygiad graddol o chwarae arbrofol i chwarae pwrpasol
Dyfyniad
"Mae newid fy ffordd o weithio wedi bod o fudd i'r plant ond hefyd i fi a fy nheulu. Mae amgylchedd hamddenol a niwtral ein cartref teuluol yn cynnig lle hapus a magwrus lle y gall plant ddysgu drwy chwarae."
Dogfennau
-
Amanda Calloway ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 265 KBPDF, Maint y ffeil:265 KB