Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Medi 2026
  • Newyddion

Archwiliad Gwelliant o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Fynwy: Cyhoeddi Canfyddiadau AGC

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Harchwiliad Gwelliant o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Fynwy.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru Archwiliad Gwelliant o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Fynwy. Roedd yr arolygiad yn asesu cynnydd yn erbyn pedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Pobl, Atal, Llesiant a Phartneriaeth.

Mae'r cyngor wedi gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd a nodwyd mewn arolygiadau blaenorol, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach cyn y gellir ystyried bod ei ymarfer yn gyson ac yn gynaliadwy.

Beth sy'n gweithio'n dda

Mae gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y cyngor bellach yn darparu gwasanaeth brysbennu cynnar effeithiol, sy'n helpu i gyfeirio pobl at y cymorth cywir yn gyflym. 

Mae ethos ataliol gwell ar waith ar draws gwasanaethau, gyda thimau ailalluogi a thimau gofal cymdeithasol a therapi integredig yn helpu pobl i aros gartref ac osgoi achosion diangen o uwchgyfeirio.

Mae amseroedd aros am asesiadau wedi lleihau, ac mae'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol yn cynyddu, gan gefnogi'r broses o ryddhau pobl o'r ysbyty ac annibyniaeth. 

Mae'r gweithlu yn parhau i fod yn ymrwymedig ac yn wydn, gydag arferion cryf sy'n seiliedig ar gydberthnasau yn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u bod yn cael eu cynnwys yn eu gofal.

Mae ymatebolrwydd o ran diogelu wedi gwella, gyda 92% o ymholiadau yn cael eu cwblhau o fewn y terfynau amser gofynnol yn 2025/26. 

Mae partneriaethau strategol wedi ymsefydlu'n gadarn, gyda'r rhan fwyaf o randdeiliaid (94%) yn deall eu rolau a llawer ohonynt (78%) yn nodi cydweithio effeithiol. 

Meysydd i'w gwella

Mae'r prosesau ar gyfer cynllunio gofal a chymorth yn parhau i fod yn anghyson. Er bod asesiadau'n aml yn nodi barn pobl, nid yw hyn bob amser yn trosi'n gynlluniau clir a mesuradwy sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae hefyd angen gwella'r prosesau ar gyfer ystyried gwasanaethu eirioli ac ar gyfer cofnodi'r wybodaeth honno. 

Nid yw pobl bob amser yn gallu cael cymorth ataliol a chymorth yn y gymuned mewn modd amserol eto, ac mae pwysau o ran capasiti'r gweithlu a'r farchnad yn cyfyngu ar hyblygrwydd. 

Mae angen cryfhau fframweithiau sicrhau ansawdd, gan nad yw'r gwersi i'w dysgu yn cael eu cofnodi na'u rhannu ar draws y gwasanaeth mewn ffordd systematig.

O ran ymarfer diogelu, mae angen dadansoddiadau ysgrifenedig mwy cadarn ac mae angen cymhwyso Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn gliriach. 

I raddau helaeth, nid yw'r asesiadau a'r cynlluniau gofal yn cynnwys cynlluniau wrth gefn, ac mae chwilfrydedd proffesiynol yn anghyson.

Er gwaethaf partneriaethau strategol cryf, nid yw'r gwaith o olrhain camau gweithredu amlasiantaeth y cytunwyd arnynt, yn enwedig ynghylch rhyddhau o'r ysbyty, yn ddibynadwy eto.

Y camau nesaf

Mae AGC yn disgwyl i Gyngor Sir Fynwy weithredu ar yr holl feysydd i'w gwella a nodwyd a bydd yn monitro cynnydd drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus. Gofynnwyd i'r cyngor rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ag awdurdodau lleol eraill hefyd er mwyn helpu i wneud gwelliannau parhaus ledled Cymru.